May Sayegh
May Sayegh | |
---|---|
Ganwyd | 1941 Dinas Gaza |
Bu farw | 5 Chwefror 2023 Amman |
Dinasyddiaeth | Palesteina |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, amddiffynnwr hawliau dynol, ymgyrchydd dros hawliau merched, ysgrifennwr |
Gwobr/au | Order of Jerusalem |
Bardd, awdur, actifydd, ymgyrchwraig gwleidyddol yw Musa Sayegh neu Mai Sayegh (Arabeg: مي الصايغ, ganwyd 1940; m. 5 Chwefror 2023); mae hi hefyd yn ffemenist cryf.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Sayegh ym 1940 yn ninas Gaza yng ngwlad Palestina pan oedd o dan fandad Lloegr. Enillodd radd Baglor mewn athroniaeth a chymdeithaseg o Brifysgol Cairo.[1] Ym 1954, hi oedd pennaeth adran menywod plaid y Baath yn nhiriogaethau Palestina.[2] Yn dilyn y Rhyfel Chwe Diwrnod ym 1967 a meddiannaeth Llain Gaza, ffodd o Gaza gan ymgartrefu yn Beirut.[3]
Hi oedd ysgrifennydd cyffredinol Undeb Merched Sefydliad Rhyddhad Palestina (y PLO) rhwng 1976 a 1986, ac roedd yn aelod o Gyngor Cenedlaethol Palestina (PNC).[4] Ffurfiwyd Undeb Cyffredinol Menywod Palestina ei hun ym 1965 o ganlyniad i benderfyniad gan y PNC a wnaed ym 1964.[5] Yn adnabyddus am ei safbwyntiau gwrth-Seionaidd cryf, nododd mai nod Palestiniaid yw rhyddhau Palestina a bod "unrhyw Balesteinad a oedd eisiau llai yn fradwr".[6]
O fewn y gymuned Balesteinaidd, mae hi'n eiriolwr di-flewyn-ar-dafod dros hawliau merched yn enwedig drwy eiriol yn wleidyddol, gan alw am gynnwys mwy o fenywod yng Nghyngor Cenedlaethol Palesteina a llunio polisïau. Credai Sayegh fod gwahanu dynion a menywod fel math o wahaniaethu gan ei fod yn y pen draw yn rhoi mwy o sylw i ddynion. Ym 1968, safodd yn erbyn polisi Fatah o ddynion yn arwain menywod yn seiliedig ar ddim ond eu rhyw, ac yn y pen draw arweiniodd at gydraddoldeb ar lawr gwlad.[7]
Mae ei dull beiddgar o rymuso menywod wedi denu beirniadaeth, gydag un sylwebydd ym 1988 yn nodi "mae hi'n gweiddi gormod".[8] Roedd hi'n siaradwr yng Nghynhadledd Merched y Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen yn 1980 lle derbyniodd "gymeradwyaeth daranllyd" am ei haraith ar hyrwyddo heddwch, cydraddoldeb a datblygiad. Dywedodd fod canlyniadau'r gynhadledd yn llwyddiant nid yn unig i'r Palesteiniaid ond "i'r holl bobloedd sy'n ymladd yn erbyn hiliaeth, camfanteisio a rheolaeth dramor".[9]
Mae Sayegh hefyd wedi ysgrifennu cerddi am y brwydrau sy'n wynebu menywod yng ngwersylloedd ffoaduriaid Palestina.[10] Cyhoeddwyd ei cherddi mewn cylchgronau Arabaidd amlwg ledled y tiroedd Arabaidd, fel cylchgrawn Al-Adab yn Libanus, cylchgrawn Aqlam yn Irac. Cymerodd ran hefyd mewn gwyliau barddoniaeth ledled y byd gan gynnwys yn Beirut, Baghdad, Dinas Coweit, Oman a Cairo.[11] Mae Sayegh yn briod ag Abu Hatam, swyddog o'r PLO.[12] Mae ganddyn nhw 4 o blant.[13]
Cydnabyddiaeth
[golygu | golygu cod]Derbyniodd Sayegh wobr Ana Betancourt yn yr 1980au gan arlywydd Ciwba, Fidel Castro.[11]
Mae hi hefyd yn destun 2001 ffilm ddogfen o'r enw Straeon o Gaza (Arabeg: حكيات من غزة ) wedi'i gynhyrchu gan Mer'ah Media a'i gyfarwyddo gan y gwneuthurwr ffilmiau o Libanus Arab Loutfi.[14]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Turki, Fawaz (1988). Soul in Exile (yn Saesneg). NYU Press. tt. 13–14. ISBN 9780853457473. Cyrchwyd 5 November 2019.
- ↑ Pappe, Ed (1999). The Israel/Palestine Question (yn Saesneg). Psychology Press. t. 220. ISBN 9780415169486. Cyrchwyd 5 November 2019.
- ↑ "The Jerusalem Post Magazine" (yn English). 1980. Cyrchwyd 5 November 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "مي الصايغ (in Arabic)". www.culture.gov.jo. وزارة الثقافة. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-08. Cyrchwyd 5 November 2019.
- ↑ Pappe, Ed (1999). The Israel/Palestine Question (yn Saesneg). Psychology Press. t. 220. ISBN 9780415169486. Cyrchwyd 5 November 2019.Pappe, Ed (1999). The Israel/Palestine Question. Psychology Press. p. 220. ISBN 9780415169486. Retrieved 5 November 2019.
- ↑ Kleinmann, Elliott (19 December 1980). "PLO is terrorist organization, foe of Israel and United States" (PDF). Daily Iowan. Cyrchwyd 5 November 2019.
- ↑ Matos, Christine De; Ward, Rowena (2012). Gender, Power, and Military Occupations: Asia Pacific and the Middle East since 1945 (yn Saesneg). Taylor & Francis. t. 202. ISBN 9781136339349. Cyrchwyd 5 November 2019.
- ↑ "Women in the PLO: rifles, fatigues, but no veils". Christian Science Monitor. 31 July 1981. Cyrchwyd 5 November 2019.
- ↑ "UN Women's Conference a Success for Progress". University of Arizona Library. Kabul New Times. 2 August 1980. Cyrchwyd 5 November 2019.
- ↑ Abdulrezak, Amal (2007). Contemporary Arab American Women Writers: Hyphenated Identities and Border Crossings (yn Saesneg). Cambria Press. t. 136. ISBN 9781621969570. Cyrchwyd 5 November 2019.
- ↑ 11.0 11.1 "مي الصايغ (in Arabic)". www.culture.gov.jo. وزارة الثقافة. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-08. Cyrchwyd 5 November 2019."مي الصايغ (in Arabic)" Archifwyd 2018-03-08 yn y Peiriant Wayback. www.culture.gov.jo. وزارة الثقافة. Retrieved 5 November 2019.
- ↑ Turki, Fawaz (1988). Soul in Exile (yn Saesneg). NYU Press. tt. 13–14. ISBN 9780853457473. Cyrchwyd 5 November 2019.Turki, Fawaz (1988). Soul in Exile. NYU Press. pp. 13–14. ISBN 9780853457473. Retrieved 5 November 2019.
- ↑ "The Jerusalem Post Magazine" (yn English). 1980. Cyrchwyd 5 November 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)"The Jerusalem Post Magazine". 1980. Retrieved 5 November 2019.
- ↑ "Arab Loutfi". Arab Women in Films. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-03. Cyrchwyd 5 November 2019.