Maria Jane Williams

Oddi ar Wicipedia
Maria Jane Williams
FfugenwLlinos Edit this on Wikidata
Ganwyd4 Hydref 1795 Edit this on Wikidata
Aberpergwm Edit this on Wikidata
Bu farw10 Tachwedd 1873 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata
Portread o Maria Jane Williams

Roedd Maria Jane Williams (4 Hydref 179510 Tachwedd 1873[1]) yn gerddor a llên-werinwraig yn y 19g a aned yn Aberpergwm, Glyn-nedd, Sir Forgannwg, de Cymru. Achubodd nifer o ganeuon Cymreig rhag mynd yn angof, gan gynnwys Y Deryn Pur a Y Ferch o'r Sger.[2]

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganed Maria Jane Williams naill ai yn 1794 neu 1795,[3] yn Aberpergwm, Glyn-nedd. Roedd hi'n ail ferch i Rees Williams (bu farw yn 1812) o Aberpergwm, a'i wraig, Ann Jenkins o Fforest Ystradfellte. Bu'n byw yn Blaen Baglan am gyfnod, ond nes ymlaen yn ei bywyd, tŷ o'r enw Ynys-las oedd ei chartref, wrth ymyl Ty Aberpergwm. Bu farw yn 1873 ac fe'i chladdwyd ar dir Ty Aberpergwm yn Eglwys Saint Cadog. 

Addysg ac astudiaethau ysgolheigaidd[golygu | golygu cod]

Roedd Maria Jane Williams yn hynod o hyddysg, yn gefnogwr brwd o'r Iaith Gymraeg a'i thraddodiadau, ac roedd ganddi wybodaeth helaeth am gerddoriaeth. Yn ogystal â chael ei hadnabod am ei chanu[4] roedd Maria hefyd yn chwaraewr gitâr a thelyn medrus, wedi cael ei haddysgu gan y telynor enwog Parish-Alvars. Dywedodd Henry Fothergill Chorley mai hi oedd "un o'r cantorion mwyaf cywrain a glywodd erioed" Mabwysiadodd yr enw ‘Llinos’, a chafodd ei chysylltu â'r sefydliad Cymreigyddion y Fenni, yn ogystal â throi ei chartref yn ganolbwynt i selogion 'Dadeni Celtaidd'

Storiau Tylwyth Teg[golygu | golygu cod]

Yn 1826–7 casglodd storiau tylwyth teg Cwm Nedd. Fe'u cyhoeddwyd yng nghyfrol atodol Crofton Croker, ‘Irish Fairy Legends’ ac yn ddiweddarach eu hailargraffu mewn ffurf cryno yn ‘Fairy Mythology’ gan Thomas Keightley, y dyn oedd wedi awgrymu iddi wneud y casgliad yn y lle cyntaf.

Llyfr o ganeuon gwerin Cymraeg [golygu | golygu cod]

Cafodd yr Eisteddfod ei chynnal yn Y Fenni am y bedwaredd tro yn Hydref 1837, dan nawdd Arglwyddes Llanofer, a ddaeth yn ffrind i Maria. Yn yr Ŵyl hon, derbyniodd wobr am y casgliad gorau o ganeuon Cymraeg heb eu cyhoeddi. Cyhoeddwyd yn 1844 dan y teitl ‘The Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg’. Er gwaethaf  beirniadaethau yn hwyrach ymlaen, mae'r llyfr yn parhau'n gyfraniad pwysig i'r gwybodaeth ar ganeuon Cymraeg traddodiadol. Mae 43 o ganeuon i'w gweld yn y llyfr, gyda geiriau Cymraeg a chyfeiliannau i'r delyn a'r piano[5] yn ogystal â nodiadau manwl ar y caneuon, a rhestr o'r bobl oedd wedi derbyn argraffiadau o'r gyfrol. Erbyn hyn, mae'r llyfr wedi cael ei hail gyhoeddi gan Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru gyda chyflwyniad a nodiadau cyfoes gan Daniel Huws. Ymysg nifer o ganeuon cafodd ei hachub gan Maria drwy'r casgliad hwn mae Y Deryn Pur ac Y Ferch o'r Sger. Yn Hydref 1838, yn yr Eisteddfod canlynol, enillodd wobr am y trefniant gorau o unrhyw alaw Gymreig wedi ei osod ar gyfer pedwar llais.

Un a roddodd feirniadaeth ddeifiol i lên-werinwyr y cyfnod, oedd Lucy Broadwood, un o gasglwyr cynharaf alawon gwerin Celtaidd, a chyn lywydd a chynghorwr i Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Yn ôl Lucy, yn ystod y cyfnod rhwng 1800 ac 1850, roedd llith o ganeuon traddodiadol a derwyddol yn cael eu cyhoeddi yng Nghymru a Phrydain, nad oedd yn dwyn ymchwiliad beirniadol.  Er hynny, hawliodd mai Maria Jane Williams oedd un o'r ddau eithriad i'r rheol yma ym Mhrydain. Yn ôl Maria Jane Williams ‘Roedd y caneuon wedi cael eu dangos fel yr oedd hi wedi eu darganfod, yn eu cyflwr gwreiddiol a gwylllt; heb unrhyw ymgais i ychwanegu addurniadau i'r alawon na'r geiriau.’[6]

Yn ogystal, bu Maria Jane Williams yn cynorthwyo John Parry i gynhyrchu'r llyfr ‘Welsh Harper’, ac ymgynhorodd John Thomas â hi cyn cyhoeddi dwy gyfrol o alawon cymreig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Löffler, M., (2019). WILLIAMS, MARIA JANE ('Llinos') (1795 - 1873), casglwr llên gwerin a cherddor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Hyd 2022, o [1]; Bywgraffiadur Cymru
  2. Dictionary of National Biography, 1885-1900, Volume 61.
  3. http://yba.llgc.org.uk/en/s-WILL-JAN-1795.html Retrieved 19 February 2012
  4. Davies, J., Jenkins, N., Baines, M., Lynch, P. I., ‘The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales’, University of Wales Press Cardiff, 2008, ISBN 978-0-7083-1953-6 (hardback), ISBN 978-0-7083-2154-6 (paperback)
  5. http://www.tradsong.org/MJWILL99.PDF Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback. Retrieved 22 February 2010
  6. Williams, M., J., Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg (A Facsimile of the 1844 Edition with Introduction and Notes on the songs by Daniel Huws), The Welsh Folk Song Society, 1988, reprinted 1994, ISBN 0-907158-30-7