Mair Davies (cenhades)
Mair Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1935 |
Bu farw | 20 Awst 2009 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cenhadwr |
Cenhades o Gymru oedd Mair Davies (1935 – 20 Awst 2009)[1] a dreuliodd rhan helaeth o'i bywyd yn gweithio yn Nhrelew, Patagonia, yr Ariannin. Cawsai ei hadnabod weithiau fel Miss Mair. Yn 2010, cyhoeddwyd y llyfr "Hyd Eithaf y Ddaear" sy'n sôn am ei hatgofion a theyrngedau a wnaed iddi ar ôl ei marwolaeth.
Cafodd ei geni ar fferm Bercoed Ganol ym Mhentre Cwrt, ger Llandysul yn un o wyth o blant. Ar y 23 Tachwedd, 1963[2], pan yn 28 oed, aeth i Batagonia fel cenhades gyda'r Methodistiaid. Aeth i Bariloche yn yr Andes i ddysgu Sbaeneg er mwyn medru cyfathrebu â'r trigolion lleol y byddai'n gweithio â hwy. Pan ddaeth ei chytundeb i ben, arhosodd Mair Davies yn y Wladfa er mwyn cynorthwyo gyda'r capeli Cymraeg.[3] Davies oedd yr unig gweinidog a oedd yn pregethu trwy gyfrwng y Gymraeg, ar wahan i ambell bregethwr a oedd yn ymweld â'r Wladfa.
Agorodd siop lyfrau Cristnogol yn Nhrelew ym 1974 ac ail siop yn Comodoro. Yn hwyrach, caeodd y siop honno gan agor siop arall ym Mhorth Madryn a oedd dipyn yn agosach yn ddaearyddol.
Bu farw ar 20 Awst, 2009 yn Nhrelew ac fe'i claddwyd ym mynwent y Gaiman.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Marw Mair Davies BBC Cymru Tramor. Cathrin Williams. Adalwyd 14-03-2010
- ↑ Emyr, G: Hyd Eithaf y Ddaear, td47. Gwasg y Bwthyn, 2010
- ↑ In the valleys of Patagonia, the talk is of an astonishing revival of the Welsh language[dolen farw] Marcus Tanner. The Independent. 19-04-2010. Adalwyd ar 14-03-2010