Macsen Wledig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Magnus Maximus)
Macsen Wledig
GanwydFlavius Magnus Maximus Edit this on Wikidata
335 Edit this on Wikidata
Hispania Edit this on Wikidata
Bu farw27 Awst 388, 28 Awst 388 Edit this on Wikidata
Aquileia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
PriodSantes Elen Luyddog Edit this on Wikidata
PlantFlavius Victor, Owain fab Macsen Wledig, Anwn Dynod, Peblig, Cystennin I, Sevira ferch Macsen Edit this on Wikidata
Darn aur Solidus yn dangos pen Macsen Wledig a muriau dinas Caergystennin

Rheolwr yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol oedd Macsen Wledig (Lladin: Magnus Maximus, tua 33528 Gorffennaf 388), o gwymp yr Ymerodraeth ym 383 tan ei farwolaeth ym 388.

Celt-Iberiad (Celt o'r Sbaen Rufeinig) oedd Macsen Wledig a ddaeth i ynysoedd Prydain yn y 360au.[1] Cafodd ei orseddu yn Ymerawdwr gan ei fyddin tra roedd ef a hwy yn gwasanaethu yng ngwledydd Prydain. Gorchfygodd ei brif elyn Gratianus ger Paris ac ar ôl hynny fe'i lladdwyd ganddo mewn brwydr yn Lyons ar 25 Awst 383. Cododd Macsen Wledig brifddinas yn Augusta Treverorum (Almaeneg: Trier) ac roedd yn Gristion.

Cafodd Macsen Wledig ei ddal a'i ladd gan ei gyn-noddwr Theodosius I yn Aquileia ger Trieste yn nhalaith Illyria ar 28 Gorffennaf 388.

Traddodiadau Cymreig[golygu | golygu cod]

Darlun posibl o Facsen Wledig yn Llyfr Oriau Llanbeblig

Yn ôl y chwedl Gymreig ganoloesol Breuddwyd Macsen Wledig, priododd Macsen Elen Luyddog, merch Eudaf o ardal Segontium, y gaer Rufeinig ger Caernarfon, ac mae peth tystiolaeth bod y stori yn wir. Yn yr achau Cymreig nodir Sant Peblig ac Owain fab Macsen Wledig yn feibion Macsen ac Elen.

Yn ôl y traddodiad Cymreig, Macsen oedd yn gyfrifol am ymadawiad lluoedd Rhufain o Gymru 20 mlynedd cyn gweddill Prydain. Gadawodd Macsen diroedd Cymru yn nwylo’r bobl frodorol, gan gyflwyno trefn o hunanlywodraeth a barodd tua naw cant o flynyddoedd. Am y rheswm hwnnw, mae Macsen wedi ei ystyried yn ’Dad y Genedl Gymreig’.[1]

Dywed Gwynfor Evans mai'r Cymry yn unig o holl bobloedd yr Ymerodraeth wrthsafodd y Germaniaid yn llwyddiannus yn dilyn cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, a bu’r drefn a gyflwynodd Macsen yn un o'r rhesymau pennaf dros hynny.[2]

Mae gan Dafydd Iwan gân enwog sy'n cyfeirio at Macsen, sef "Yma o Hyd".

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Gwynfor Evans, Macsen Wledig a Geni'r Genedl Gymreig (Abertawe, d.d.= 1983)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Y Gwyddoniadur Cymreig (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008)
  2. Gwynfor Evans, Seiri Cenedl y Cymry (Gomer, 1986)