Madonna (adlonwraig)

Oddi ar Wicipedia

Mae'r erthygl hon yn sôn am yr adlonwraig, am ddefnydd arall yr enw gweler Madonna

Madonna
FfugenwMadonna, Louise Ciccone, Madonna Ritchie, Boy Toy, Nonnie, Maddy, Mo, The Material Girl, Queen of Pop, Madge, Veronica Electronica, Dita, Madame X, M-Dolla, M Edit this on Wikidata
GanwydMadonna Louise Ciccone Edit this on Wikidata
16 Awst 1958 Edit this on Wikidata
Bay City, Michigan Edit this on Wikidata
Label recordioSire Records, Warner Bros. Records, Maverick, Interscope Records, Warner Music Group, Live Nation Entertainment Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • University of Michigan School of Music, Theatre & Dance
  • Rochester Adams High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, cyfansoddwr caneuon, actor, cyfarwyddwr ffilm, cyfansoddwr, cynhyrchydd ffilm, ysgrifennwr, dawnsiwr, entrepreneur, cynhyrchydd recordiau, perfformiwr, person busnes, sgriptiwr, bardd, model, awdur plant, cynhyrchydd, cyfarwyddwr, dyngarwr, gitarydd, actor ffilm, casglwr celf, actor llais Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Dunkin' Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMaterial Girl, Into the Groove, Like a Virgin, Dress You Up, Papa Don't Preach, La Isla Bonita, Die Another Day, Open Your Heart, Holiday Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth ddawns, cerddoriaeth electronig, pop dawns, roc poblogaidd, cyfoes R&B, cerddoriaeth gyfoes i oedolion, jazz, opera roc, Canu gwerin Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano, soprano Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadDavid Bowie, Debbie Harry, Chrissie Hynde, Martha Graham, Mae West Edit this on Wikidata
Taldra164 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadSilvio P. (Tony) Ciccone Edit this on Wikidata
MamMadonna Louise Fortin Edit this on Wikidata
PriodGuy Ritchie, Sean Penn Edit this on Wikidata
PartnerCarlos Leon, Timor Steffens, Vanilla Ice, Brahim Zaibat, Jesus Luz, Alex Rodriguez, Jenny Shimizu, Tupac Shakur, José Canseco, Tony Ward, John F. Kennedy Jr., Jean-Michel Basquiat, John Benitez, Dennis Rodman, Dan Gilroy, Sandra Bernhard, Warren Beatty, Josh Popper Edit this on Wikidata
PlantLourdes Leon, Mercy James, David Banda Mwale Ciccone Ritchie, Stella Ciccone, Esther Ciccone, Rocco Ritchie Edit this on Wikidata
Gwobr/auGrammy Award for Best Music Film, Grammy Award for Best Pop Vocal Album, Grammy Award for Best Dance/Electronic Recording, Gwobr Grammy am y Fideo Cerdd Gora, Grammy Award for Best Song Written for Visual Media, Grammy Award for Best Dance/Electronic Album, Grammy Award for Best Music Film, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - mewn Drama Gerdd neu Gomedi ar Ffilm, Golden Globe Award for Best Original Song, Rock and Roll Hall of Fame, Golden Raspberry Award for Worst Screen Couple/Ensemble, Golden Raspberry Award for Worst Supporting Actress, Gwobrwyon Amadeus Awstria, Gwobrau BRIT, Gwobr Golden Raspberry i'r Actores Wrth Gefn Waethaf, Gwobr Golden Raspberry i'r Actores Wrth Gefn Waethaf, ECHO Awards, American Music Award for Artist of the Year Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.madonna.com Edit this on Wikidata
llofnod

Cantores Americanaidd boblogaidd yw Madonna Louise Ciccone Ritchie neu Madonna (ganwyd 16 Awst 1958). Mae hi hefyd yn ysgrifennu caneuon, yn cynhyrchu recordiau ac yn actio. Fe'i magwyd ger Detroit, Michigan cyn symud i Efrog Newydd er mwyn dilyn gyrfa mewn dawns fodern. Bu'n perfformio fel aelod o'r grwpiau pop cerddorol Breakfast Club ac Emmy, cyn rhyddhau ei halbwm cyntaf ym 1983. Yna cynhyrchodd tri albwm stiwdio a gyrhaeddodd rhif un ar y Billboard 200 yn ystod y 1980au.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Caiff Madonna ei hadnabod am ei gwaith sy'n ymhel â symboliaeth crefyddol a themâu o rywioldeb, rhywbeth a berodd i'r Fatican ei beirniadu ar ddiwedd y 1980au.[1] Ym 1992, ffurfiodd cwmni adloniant Maverick, a gyhoeddodd lyfr o ffotograffau Sex. Rhyddhaodd albwm stiwdio hefyd, sef Erotica ac actiodd mewn ffilm a oedd yn ymdrin â'r themâ o ryw, sef Body of Evidence. Creodd y gweithiau yma lawer o gyhoeddusrwydd negyddol a gwelwyd cwymp yn ei gwerthiant yn ystod y 1990au.[2] Serch hynny, cynyddodd ei phoblogrwydd ym 1998, pan dderbyniodd ei halbwm Ray of Light ganmoliaeth aruthrol. Ers hynny, mae wedi gwneud pedwar albwm stiwdio sydd wedi cyrraedd rhif un yn y siart.

Mae Madonna wedi actio mewn 22 ffilm. Er i nifer o'r ffilmiau yma fethu yn fasnachol a chael eu beirniadu, enillodd Madonna Wobr Golden Globe am ei rôl fel Eva Peron yn y ffilm Evita ym 1996. Ar ôl i Madonna a'i gŵr Sean Penn ysgaru, beichiogodd Madonna a rhoddodd enedigaeth i Lourdes Maria (a adnabyddir fel Lola hefyd). Tad y ferch oedd yr hyfforddwr personol Carlos Leon. Priododd Madonna y cyfarwyddwr ffilmiau Guy Ritchie yn 2000. Mae ganddynt ddau fab, Rocco a David Banda, bachgen o Falawi a gafodd ei fabwysiadu yn 2006. Perodd hyn i'r cyfryngau honni eu bod wedi torri cyfreithiau mabwysiadu'r wlad honno. Ar ôl sawl mis o sibrydion, honwyd yn 2008 bod priodas Madonna a Guy Ritchie ar ben.[3] Cadarnhawyd hyn yn hwyrach mewn datganiad i'r Wasg a nododd "Madonna and Guy Ritchie have agreed to divorce after seven-and-a-half years of marriage, their representatives confirmed today...They have both requested that the media maintain respect for their family at this difficult time.” [4]

Caiff Madonna ei hystyried gan rai fel un o'r artistiaid pop gorau erioed ac fe'i henwyd yn "Brenhines Pop" gan nifer o ffynonellau. [5] [6] [7] [8] Hi yw'r artist roc sydd wedi gwerthu fwyaf yn yr 20g yn ôl Cymdeithas Diwydiant Recordio America gyda gwerthiant o dros 250 miliwn o albymau. [9] Rhestra'r Guinness World Records Madonna fel yr artist benywaidd mwyaf llwyddiannus erioed ac fel yr artist a enillodd fwyaf o arian gyda gwerth cyfansymiol o dros $400 miliwn, wedi iddi werthu dros 250 miliwn o recordiau ledled y byd. [10] [11] Ar y 10fed o Fawrth 2008, cafodd ei derbyn i'r 'Rock and Roll Hall of Fame'.[12]

Ei Bywyd Cynnar a Dechreuadau'i Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganwyd Madonna Louise Ciccone yn Bay City, Michigan.[13] Roedd ei mam, Madonna Louise (née Fortin), o dras Canadaidd Ffrengig ac roedd ei thad, Silvio "Tony" P. Ciccone, yn beiriannydd o Eidlawr-Americanaidd i gwmni Chrysler/ General Motors. Daeth ei deulu'n wreiddiol o Pacentro, yn yr Eidal.[14]. Madonna yw'r trydydd o chwech o blant; enwau ei vrodyr a chwiorydd ŷnt Martin, Anthony, Paula Mae, Christopher a Melanie.[15]

Magwyd Madonna ym maesdrefi Detroit o'r enw Pontiac, Michigan a Avon Township (bellach Rochester Hills, Michigan). Bu farw ei mab o gancr y fron ar y 1af o Ragfyr 1963 pan oedd yn 30 oed. Ail-briododd tad Madonna glanheuwyr y cartref, Joan Gustafson a chwasant ddau o blant; Jennifer and Mario Ciccone. Dywedodd Madonna "I didn't accept my stepmother when I was growing up... in retrospect I think I was really hard on her."[16] Argyhoeddodd Madonna ei thad i dalu am wersi ballet iddi. Mynychodd St. Frederick's Elementary School a St. Andrew's Elementary School (bellach Holy Family Regional) a Ysgol Middle School. Aeth i Ysgol Uwchradd Rochester Adams lle'r oedd yn ddisgybl gradd A ac yn aelod o'r tîm cheerleading. Derbyniodd Madonna ysgoloriaeth ddawns i Brifysgol Michigan ar ôl iddi raddio o'r ysgol uwchradd.[17]

Perswadiodd athrawes ddawns Madonna y dylai ddilyn gyrfa mewn dawns ac felly gadawodd Brifysgol Michigan ar ddiwedd 1977 a symudodd i Ddinas Efrog Newydd. Ychydig iawn o arian oedd ganddi ac am gyfnod bu'n byw mewn llefydd di-nod iawn, gan weithio yn Dunkin' Donuts a chyda grŵpiau dawns modern. Pan yn sôn am y cyfnod y symudodd i Efrog Newydd, dywed Madonna "It was the first time I'd ever taken a plane, the first time I'd ever gotten a taxi cab. I came here with $35 in my pocket. It was the bravest thing I'd ever done."[18] Tra'n perfformio fel dawnswraig i'r artist disco Patrick Hernandez ar ei daith o amgylch y byd ym 1979 [19], ffurfiodd Madonna berthynas gyda'r cerddor Dan Gilroy. Yn ddiweddarach, ffurfiodd grŵp roc gydag ef, y Breakfast Club yn Efrog Newydd. Tra yn y band hwn, canodd Madonna a chwaraeodd y drymiau a'r gitâr cyn iddi ffurfio'r badn Emmy ym 1980 gyda'r drymwir a'i chyn-gariad Stephen Bray.[19] Ysgrifennodd a chynhyrchodd Madonna a Bray ganeuon dawns a ddaliodd sylw lleol yng nghlybiau dawns Efrog Newydd. Roedd y troellwr disgiau a'r cynhyrchydd recordiau Mark Kamins yn hoffi ei recordiadau demo ac felly tynnodd sylw sefydlydd y cwmni Sire Records, Seymour Stein, at y Madonna ifanc. [19]

Albymau[golygu | golygu cod]

  • Madonna (1983)
  • Like a Virgin (1984)
  • True Blue (1986)
  • Like a Prayer (1989)
  • Erotica (1992)
  • Bedtime Stories (1994)
  • Ray of Light (1998)
  • Music (2000)
  • American Life (2003)
  • Confessions on a Dance Floor (2005)
  • Hard Candy (2008)
  • MDNA (2012)
  • Rebel Heart (2015)
  • Madame X (2019)

Caneuon poblogaidd[golygu | golygu cod]

  • Holiday
  • Like a Virgin
  • Material Girl
  • Papa Don't Preach
  • Cherish
  • Vogue
  • Secret
  • Human Nature
  • Don't Cry For Me Argentina
  • Ray of Light
  • Beautiful Stranger
  • Music
  • American Life
  • Me Against the Music (gyda Britney Spears)
  • Hung Up
  • Sorry

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Javno - Madonna yn cyflwyno'r gân Like a Virgin i'r Fatican.[dolen marw]
  2. "Bywgraffiad o Madonna ar wefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-01-15. Cyrchwyd 2007-01-15.
  3. TheSun yn honni bod Madonna a Ritchie i ysgaru.
  4. Datganiad i'r Wasg am ysgariad Madonna a Guy Ritchie ym mhapur newydd The Sun
  5. Erthygl Mirror
  6. "Buzzle.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-30. Cyrchwyd 2008-10-15.
  7. [https://web.archive.org/web/20080911190130/http://www.walesonline.co.uk/showbiz-and-lifestyle/2008/08/23/hail-madonna-the-queen-of-pop-91466-21594028/ Archifwyd 2008-09-11 yn y Peiriant Wayback. Erthygl am berfformiad Madonna yng Nghaerdydd Awst 2008]
  8. "Erthygl y Daily Mail - Madonna a'i harian". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-01-15. Cyrchwyd 2007-01-15.
  9. Wiki AnswersNifer o albymau a werhwyd gan Madonna
  10. Erthygl am Madonna a'i gwerth ariannol
  11. Guinness World Records
  12. NY Times - Madonna'n cael ei derbyn i'r Rock and Roll Hall of Fame
  13. "Gwefan Beautiful Madonna". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-09-26. Cyrchwyd 2008-10-18.
  14. Gwefan Madonna Tribute
  15. Gwefan VirginMedia
  16. Cyfweliad gyda CNN
  17. "Gwefan Accesshollywood". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-17. Cyrchwyd 2008-10-18.
  18. Gwefan The Independent
  19. 19.0 19.1 19.2 Gwefan Superiorpics.com[dolen marw]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.