Luisa Futoransky
Luisa Futoransky | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 5 Ionawr 1939 ![]() Buenos Aires ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, cyfieithydd ![]() |
Arddull | barddoniaeth ![]() |
Gwobr/au | Cymdeithas Goffa John Simon Guggenheim ![]() |
Nofelydd a bardd Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg yw Luisa Futoransky (ganwyd 5 Ionawr 1939) sy'n nodedig am y digrifwch main a dadadeiladol sy'n lliwio'i ffuglen a'r darluniau o unigrwydd y mae'n telynegu yn ei barddoniaeth.
Ganwyd yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, i deulu Iddewig. Symudodd i Sbaen yn 1971, a bu'n byw hefyd yn yr Eidal, Japan, a Tsieina cyn iddi ymgartrefu yn Ffrainc yn 1981. Gweithiodd fel newyddiadurwraig ym Mharis. Teithiodd yn fynych i Israel, a hefyd i brifysgolion yn yr Unol Daleithiau ym mha le'r oedd hi'n cynnal gweithdai barddoniaeth.[1]
Ystyrir ei gwaith yn nodweddiadol o ddigrifwch ac hunaniaeth yr Iddew. Yn ogystal â thynnu ar agweddau o'i phrofiad diwylliannol, ysgrifennai Futoransky am themâu serch, taith, alltudiaeth, a benywdod, ac hynny mewn arddull sy'n cyfuno ieithwedd aruchel a llafar gwlad.[1]
Gwobrwywyd Cymrodoriaeth Guggenheim iddi yn 1991, a fe'i phenodwyd i urdd Chevalier des Arts et Lettres.[2]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
Barddoniaeth[golygu | golygu cod]
- Partir, digo (Valencia: Editorial Prometeo, 1982).
- La sanguina (1987)
- La parca, enfrente (1995)
- Antología poética (Buenos Aires: Fondo Nacional de las Artes, 1996).
- Cortezas y fulgores (1997)
- De dónde son las palabras (Barcelona: Plaza & Janés, 1998).
- Prender de gajo (Madrid: Calambur, 2006).
Nofelau[golygu | golygu cod]
- Son cuentos chinos (1983)
- De Pe a Pa (o de Pekín a París) (Barcelona: Editorial Anagrama, 1986).
- Urracas (1992)
- El Formosa (Buenos Aires: Leviatán, 2010).
Ysgrifau[golygu | golygu cod]
- Pelos (Madrid: Ediciones Temas de Hoy, 1990).
- Lunas de miel (1996)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 Florinda F. Goldberg, "Futoransky, Luisa yn Encyclopaedia Judaica (Thomson Gale, 2007). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 14 Gorffennaf 2019.
- ↑ Florinda F. Goldberg, "Futoransky, Luisa" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 215.
- Archentwyr Iddewig
- Beirdd Archentaidd yr 20fed ganrif
- Beirdd Archentaidd yr 21ain ganrif
- Beirdd Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg
- Genedigaethau 1939
- Llenorion benywaidd yr 20fed ganrif
- Llenorion benywaidd yr 21ain ganrif
- Llenorion Iddewig
- Merched a aned yn y 1930au
- Newyddiadurwyr Archentaidd yr 20fed ganrif
- Nofelwyr Archentaidd yr 20fed ganrif
- Nofelwyr Archentaidd yr 21ain ganrif
- Nofelwyr Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg
- Pobl o Buenos Aires
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Archentaidd yr 20fed ganrif
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg