Lou Reed

Oddi ar Wicipedia
Lou Reed
GanwydLewis Allan Reed Edit this on Wikidata
2 Mawrth 1942 Edit this on Wikidata
Brookdale University Hospital and Medical Center Edit this on Wikidata
Bu farw27 Hydref 2013 Edit this on Wikidata
o sirosis Edit this on Wikidata
East Hampton, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Label recordioWarner Bros. Records, Metro-Goldwyn-Mayer, RCA, Pickwick, Verve Records, MGM Records, RCA Records, Arista Records, Sire Records, Warner Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Syracuse
  • Freeport High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, canwr-gyfansoddwr, gitarydd, ffotograffydd, cyfansoddwr, cyfansoddwr caneuon, bardd, actor, cynhyrchydd recordiau, cerddor, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Pickwick Edit this on Wikidata
Adnabyddus amWalk on the Wild Side, Transformer Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc, proto-punk, roc amgen, noise rock, roc arbrofol, roc glam, roc gwerin, roc seicedelig, blue-eyed soul, roc celf, spoken word, drone music Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata
PriodLaurie Anderson Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Steiger, Rock and Roll Hall of Fame, Gwobr Grammy Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.loureed.com/ Edit this on Wikidata

Canwr, gitarydd a chyfansoddwr caneuon roc Americanaidd oedd Lewis Allan "Lou" Reed (2 Mawrth 194227 Hydref 2013).[1]

Ganwyd yn Brooklyn, Dinas Efrog Newydd, i deulu Iddewig ym 1942 a mynychodd Prifysgol Syracuse. Yn Ninas Efrog Newydd bu'n cwrdd â'r Cymro John Cale a sefydlodd y ddau y band roc The Velvet Underground ym 1965 gyda'r gitarydd Sterling Morrison a'r drymwraig Maureen Tucker, a bu'r arlunydd Andy Warhol yn rheolwr a chynhyrchydd. Erbyn i Reed adael y band ym 1970, rhyddhaodd The Velvet Underground pedwar albwm oedd yn arloesol yng nghelfyddyd avant-garde a cherddoriaeth arbrofol. Nid oedd y band yn hynod o lwyddiannus ar y pryd, ond ers hynny mae dylanwad The Velvet Underground ar gerddoriaeth roc yn amlwg.[2][3]

Ym 1972 symudodd Reed i Loegr a rhyddhaodd ei ddau albwm unigol cyntaf, Lou Reed a Transformer. Cyd-gynhyrchwyd Transformer gan David Bowie ac mae'n cynnwys rhai o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, Vicious, Perfect Day, Walk on the Wilde Side, a Satellite of Love. Dan ddylanwad Bowie mabwysiadodd Reed delwedd a sain roc glam sy'n amlwg yn y llun eiconig ohono ar glawr Transformer. Roedd ei waith hefyd yn ddylanwadol ar bync-roc yn y cyfnod hwn.[3] Bu perthynas Reed ag alcohol a chyffuriau yn effeithio ar ei yrfa, ac roedd yr ymateb beirniadol a phoblogaidd i'w albymau trwy'r 1970au yn gymysg. Ei weithiau mwyaf ddrwg-enwog yw Berlin (1973), cylch o ganeuon epig am berthynas sadomasochistaidd, a Metal Machine Music (1975), albwm dwbl o sŵn adlif gitâr yn unig.

Arbrofodd ymhellach gyda Street Hassle (1978) a The Bells (1979),[1] a dychwelodd at roc crai'r gitâr ar The Blue Mask (1982).[3] Wedi i Reed rhoi'r gorau i'w ddibyniaeth ar alcohol a chyffuriau, derbynodd clod am gyfres o albymau: New York (1989); Songs for Drella (1990), cydweithrediad â John Cale er cof am Warhol; a Magic and Loss (1992) a ddangosodd medr Reed gyda'r gân roc a rôl dau-gord.[1] Yn y 1990au adunodd â The Velvet Underground nifer o weithiau, er bu peth anghytundeb rhyngddo a Cale.[2] Rhyddhaodd Reed rhagor o albymau gan arbrofi â cherddoriaeth amgylchol a llefaru, er enghraifft ar The Raven (2003) sy'n seiliedig ar weithiau Edgar Allan Poe. Yn 2011 cyd-weithiodd â'r band metel trwm Metallica i greu'r albwm Lulu.[4]

Priododd Bettye Kronstadt ym 1973, y ddylunwraig Sylvia Morales ym 1980, a'r gerddores Laurie Anderson yn 2008.[5] Cafodd trawsblaniad afu ym Mai 2013, ac yn Hydref y flwyddyn honno bu farw yn 71 oed o glefyd yr afu.[6]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Albymau unigol[golygu | golygu cod]

  • Lou Reed (1972)
  • Transformer (1972)
  • Berlin (1973)
  • Sally Can't Dance (1974)
  • Metal Machine Music (1975)
  • Coney Island Baby (1975)
  • Rock and Roll Heart (1976)
  • Street Hassle (1978)
  • The Bells (1979)
  • Growing Up in Public (1980)
  • The Blue Mask (1982)
  • Legendary Hearts (1983)
  • New Sensations (1984)
  • Mistrial (1986)
  • New York (1989)
  • Songs for Drella (1990; gyda John Cale)
  • Magic and Loss (1992)
  • Set the Twilight Reeling (1996)
  • Ecstasy (2000)
  • The Raven (2003)
  • Hudson River Wind Meditations (2007)
  • Lulu (2011; gyda Metallica)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Williams, Richard (28 Hydref 2013). Lou Reed obituary. The Guardian. Adalwyd ar 28 Hydref 2013.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Obituary: How Lou Reed shaped rock. BBC (28 Hydref 2013). Adalwyd ar 28 Hydref 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Lou Reed (American musician). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Hydref 2013.
  4. (Saesneg) Dolan, Jon (27 Hydref 2013). Lou Reed, Velvet Underground Leader and Rock Pioneer, Dead at 71. Rolling Stone. Adalwyd ar 28 Hydref 2013.
  5. (Saesneg) Perrone, Pierre (28 Hydref 2013). Lou Reed obituary: Singer and founder of the Velvet Underground. The Independent. Adalwyd ar 28 Hydref 2013.
  6. (Saesneg) Ratliff, Ben (27 Hydref 2013). Lou Reed: Outsider Whose Dark, Lyrical Vision Helped Shape Rock ’n’ Roll. The New York Times. Adalwyd ar 28 Hydref 2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: