Pync-roc
Math o gerddoriaeth roc sy'n rhan o'r isddiwylliant pync ehangach yw pync-roc.[1] Mae ganddo arddull ffyrnig sy'n cefnogi "diffyg" medr cerddorol, hynny yw, arbrofoliaeth gryf oedd yn adlach i roc celfyddyd. Un o brif nodweddion y gerddoriaeth hon yw'r sŵn a gynhyrchir gan strymio'r gitâr tro ar ôl tro.[2]
Ymhlith y bandiau pync-roc a ddaeth i'r amlwg yn yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig yn y 1970au a'r 1980au oedd y Ramones, y Sex Pistols, The Clash a The Damned.
Roedd Llygod Ffyrnig o ardal Gwm Tawe y grŵp pync cyntaf i ganu yn Gymraeg. Recordiodd y band un sengl NCB yn 1978 a chwaraewyd ar raglen radio John Peel ar BBC Radio 1 a'i gynnwys ar LP aml-gyfrannog Labels Unlimited - The Second Record Collection - casgliad o recordiau o labeli pync a new wave.[3]. Mae'n debyg taw'r Anhrefn yw'r band pync-roc mwyaf adnabyddus i ganu yn Gymraeg.
Bandiau Pync-roc o Gymru[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhestr Wicidata:
pync-roc[golygu | golygu cod y dudalen]
# | enw | delwedd | y fan lle cafodd ei ffurfio | categori Comin | genre | label recordio | eitem ar WD |
---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Alffa | Caernarfon | pync-roc y felan |
Q63535286 | |||
2 | Anhrefn | Bangor | pync-roc | Recordiau Anhrefn | Q8059636 | ||
3 | Anterior | Tredegar | pync-roc | Metal Blade Records | Q4771317 | ||
4 | Bullet for my Valentine | Pen-y-bont ar Ogwr | Bullet for My Valentine | pync-roc metalcore |
Columbia Records Trustkill Records |
Q485385 | |
5 | Fell on Black Days | Glynebwy | pync-roc | Brutal Elite Records | Q5442437 | ||
6 | Hondo Maclean | Pen-y-bont ar Ogwr | pync-roc | Mighty Atom Records | Q5892885 | ||
7 | Kids in Glass Houses | Pen-y-bont ar Ogwr | pync-roc | Warner Music Group | Q655446 | ||
8 | Neck Deep | Wrecsam Cymru |
Neck Deep | pync-roc Pop-punk |
Hopeless Records We Are Triumphant Pinky Swear Records |
Q16955493 | |
9 | Shootin' Goon | Cymru | pync-roc | Good Clean Fun Records Moon Ska World |
Q7500541 | ||
10 | The Blackout | Merthyr Tudful | pync-roc post-hardcore metalcore |
Epitaph Records | Q1590537 |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Geiriadur yr Academi, [punk].
- ↑ Latham, Alison (gol.). The Oxford Companion to Music (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2002), t. 1015–6.
- ↑ https://www.discogs.com/Various-Labels-Unlimited-The-Second-Record-Collection/release/471879