Neidio i'r cynnwys

Recordiau Anhrefn

Oddi ar Wicipedia

Label recordio oedd Recordiau Anhrefn a sefydlwyd yn 1983 gan Rhys Mwyn.

Roedd y label wedi ei leoli ym mhentref bychan Llanfair Caereinion yng nghanolbarth Cymru, cyn i Rhys a'i frawd Sion Sebon symud i Fangor, pwrpas gwreiddiol y label oedd rhyddhau recordiau eu grŵp eu hunain, Yr Anhrefn ond fe aeth ymlaen i ryddhau recordiau gan grwpiau Cymraeg arall yn cynnwys sylw cynnar i enwau dylanwadol fel Datblygu, Fflaps a Llwybr Llaethog.

Yr ail record ar y label oedd casgliad amlgyfrannog o'r enw 'Cam o’r Tywyllwch' a ryddhawyd yn 1985. Daeth i sylw ehangach ar ôl i John Peel chwarae traciau oddi ar yr albwm ar ei sioe ar BBC Radio One. Roedd yr albwm yn cynnwys trac gan Machlud (gyda Gruff Rhys ifanc iawn a fyddai'n mynd ymlaen i ffurfio'r Super Furry Animals) a'r Cyrff (fe fyddai dau aelod yn mynd ymlaen i ffurfio Catatonia).[1]

Er mai dim ond llond llaw o recordiau a ryddhaodd y label rhwng 1983 a'i ddiddymiad yn 1990, roedd y label yn darparu cerddoriaeth amgen a chwyldroadol i gymharu â'r sîn gerddoriaeth geidwadol iawn yng Nghymru ar y pryd. Mae rhai yn dweud ei fod yn rhan o fudiad a ddatblygodd sylfaen ar gyfer ehangu cerddoriaeth Gymraeg i weddill y byd gan arwain at lwyddiant sylweddol 'Cool Cymru' yn y 1990au, wedi ei arwain gan Super Furry Animals, Catatonia a Gorky's Zygotic Mynci.[2]

Yn 2007 fe atgyfododd Rhys Mwyn y label o'i swyddfa yn y Galeri, Caernarfon, a dechreuodd ryddhau recordiau gan artistiaid fel Beastellabeast a Patrick Jones.

Disgyddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • ANHREFN 01 – ANHREFN – Dim Heddwch (Sengl 7″ 1984)
  • ANHREFN 02 – VARIOUS – Cam o’r Tywyllwch (LP amlgyfrannog 1985)
  • ANHREFN 03 – Y CYRFF – Yr Haint (Sengl 7″ 1985)
  • ANHREFN 04 – VARIOUS – Gadael Yr 20g (LP amlgyfrannog 1986)
  • ANHREFN 05 – TYNAL TYWYLL – (7″ EP 1986)
  • ANHREFN 06 – VARIOUS – Galwad Ar Holl Filwyr Byffalo Cymru (7″ EP 1986)
  • ANHREFN 07 – TYNAL TYWYLL – ’73 Heb Flares/Rhwyma Fi (7″ 1986)
  • ANHREFN 08 – DATBLYGU – Hwgr-Grawth-Og (7″ EP 1986)
  • ANHREFN 09 – LLWYBR LLAETHOG – Dull Di-Drais (7″ EP / caset) 1986
  • ANHREFN 10 – VARIOUS – Mindless Slaughter (LP 1987)
  • ANHREFN 11 – LLWYBR LLAETHOG – Tour De France ’87 / Yo! (7″) 1987
  • ANHREFN 12 – FFLAPSFflaps (7″ EP 1987)
  • ANHREFN 13 – HEB CARIAD – Caneuon o’r De EP (7″ feinyl gwyn) 1987
  • ANHREFN 14 – DATBLYGU – Wyau (LP 1988)
  • ANHREFN 15 – ANHREFN – Be Nesa 89 (Sengl 7″ 1988)
  • ANHREFN 16 – JEB LOY NICHOLS – Days Are Mighty (CD 2007)
  • ANHREFN 17 – DEVINE & GRIFFITHS – Wheels Get To Heaven (CD 2007)
  • ANHREFN 18 – CAYO EVANS – Marching Songs of The Free Wales Army (CD 2008)
  • ANHREFN 19 – (anhysbys)
  • ANHREFN 20 – WARRIOR CHARGE – No Foundation No House (CD 2008)
  • ANHREFN 21 – KERIEVA – Kerieva (CD 2008)
  • ANHREFN 22 – PATRICK JONES – Tongues For a Stammering Time (CD 29 Mai 2009)
  • ANHREFN 23 – FELLOW TRAVELLERS – No Easy Way (lawrlwythiad yn unig 2009)
  • ANHREFN 24 – FELLOW TRAVELLERS – Just a Visitor (lawrlwythiad yn unig 2009)
  • ANHREFN 25 – BEASTELLABEAST – Beastiality (CD 2009)
  • ANHREFN 26 – BEASTELLABEAST – Stars and Wrong ‘uns (CD 2009)
  • ANHREFN 27 – ELIN MANAHAN THOMAS – Papa Haydn (CD 2009)
  • ANHREFN 28 – DUKES JETTY – Fine and Dandy (CD Mai 2009)
  • ANHREFN 29 – DUKES JETTY – Oh Girl (Sengl lawrlwythiad 17 Awst 2009)
  • ANHREFN 30 – SNOWDON LILY COLLECTIVE (CD Ebrill 2010)
  • ANHREFN 31 – PLYGAIN - Never Mind The Bollocks Here's The Plygain (CD 2010)
  • ANHREFN 32 – STELLA CHIWESHE (CD 2010)
  • ANHREFN 33 – JAMES J TURNER – Gone Away (LP lawrlwythiad 23 Tachwedd 2010)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "ALBUM REVIEW – Various – Cam O'r Tywyllwch | link2wales.co.uk". link2wales.co.uk. Cyrchwyd 2015-12-25.
  2. "Anhrefn | link2wales.co.uk". link2wales.co.uk. Cyrchwyd 2015-12-25.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]