Neidio i'r cynnwys

Llygod Ffyrnig

Oddi ar Wicipedia
Llygod Ffyrnig
Enghraifft o:band Edit this on Wikidata
Daeth i ben1980 Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1977 Edit this on Wikidata
Genrepync-roc Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Roedd Llygod Ffyrnig yn grŵp punk Cymraeg o ardal Llanelli. Mae'n debyg mai Llygod Ffyrnig oedd y grŵp punk cyntaf i ganu'n Gymraeg.[1]

Yr aelodau gwreiddiol oedd:

  • Dafydd Rhys – Llais
  • Hywel Peckham – Gitâr
  • Gary Beard – Gitâr
  • Julian Lewis – Drymau
  • Pete Williams – Bâs

Rhyddhawyd un sengl NCB ar y label Pwdwr yn 1978. Chwaraewyd ar raglen John Peel ar BBC Radio 1 a dewiswyd yn single of the week gan y cylchgrawn Melody Maker.[2]

Ysgrifennwyd geiriau NCB gan Gary Melville sydd hefyd yn cael ei enwi'n rheolwr ar glawr cefn y record. Ysgrifennwyd cerddoriaeth NCB gan Gary Beard. Mae'r gân am ddewis anodd llawr o ddynion ifanc yng nghymoedd de Cymru ar y pryd - rhwng diweithdra neu i drio cael swydd beryglus a chaled mewn pwll glo gyda'r NCB (Bwrdd Glo Cenedlaethol). Y gytgan yw - Byw ar y dôl, rhyddid ffôl, dim ond silicosis sydd ar ôl (mae silicosis yn glefyd yr ysgyfaint sydd wedi'i achosi gan lwch pwll glo).

Cafodd 500 copi o'r sengl ei gwasgu yn wreiddiol a wedyn ail argraffiad gyda labeli blanc gwyn. Mae clawr NCB yn ddu a gwyn yn dangos llun photo-montage o löwr yn debyg iawn i steil.[3] Mae enw'r band mewn llythrennau wedi'u torri allan o bapur newydd yn debyg i glawr LP cyntaf y Sex Pistols.

Cafodd y gân NCB ei chynnwys ar LP aml-gyfrannog Labels Unlimited - The Second Record Collection - casgliad o recordiau o labeli pync a new wave ar label Cherry Red, Llundain yn 1979.[4]

Yn 1979 gadawodd Dafydd Rhys, Gary Beard a Julian Lewis a daeth Wayne Gwilym mewn fel canwr, Huw Davies mewn ar gitâr a Richard Zammit ar ddrymiau. Ail-ymunodd Dafydd Rhys yn hwyrach yn 1979. Chwalodd y band yn 1980.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]