Andy Warhol

Oddi ar Wicipedia
Andy Warhol
GanwydAndrew Warhola Jr. Edit this on Wikidata
6 Awst 1928 Edit this on Wikidata
Pittsburgh Edit this on Wikidata
Bu farw22 Chwefror 1987 Edit this on Wikidata
o arhythmia'r galon Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Carnegie Mellon
  • Schenley High School
  • Carnegie Mellon School of Art Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, arlunydd, ffotograffydd, cynhyrchydd ffilm, cerflunydd, artist, sinematograffydd, sgriptiwr, dyddiadurwr, cynllunydd, arlunydd graffig, gwneuthurwr ffilm, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, darlunydd, artist sy'n perfformio, artist gosodwaith, awdur, masnachwr, cynhyrchydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCampbell's Soup Cans II, Chelsea Girls, Exploding Plastic Inevitable, Marilyn Diptyque, Shot Marilyns Edit this on Wikidata
Arddullportread (paentiad), bywyd llonydd, portread Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
Mudiadcelf bop Edit this on Wikidata
TadAndrej Warhola Edit this on Wikidata
MamJulia Warhola Edit this on Wikidata
PartnerBilly Name, John Giorno, Jed Johnson Edit this on Wikidata
PerthnasauJames Warhola Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.warhol.org Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Andy Warhol (6 Awst 192822 Chwefror 1987) yn arlunydd Americaniad, y cymeriad mwyaf amlwg yn y mudiad celfyddyd gweledol Pop. Ar ôl cyfnod fel darlunydd masnachol, daeth Warhol yn arlunydd avant-garde, ei waith yn cynnwys amrywiaeth eang o feysydd a chyfryngau – arlunio â llaw, peintio, gwaith print, ffotograffiaeth, argraffu sgrin sidan, ffilm a cynhyrchydd cerddoriaeth. Roedd yn arloeswr mewn celfyddyd ddigidol gan ddefnyddio cyfrifiaduron Amiga ym 1984 y flwyddyn gyntaf iddynt ddod ar y farchnad, dwy flynedd cyn iddo farw.

Roedd ei waith yn canolbwyntio ar y perthynas rhwng celfyddyd, sêr diwylliant poblogaidd, a'r byd hysbysebu o'r 1960au ymlaen, yn bathu'r dywediad 15 munud o enwogrwydd.

Mae ei waith ymhlith y drytach ar y farchnad gelf, y swm uchaf a dalwyd erioed am un o weithiau Warhol yw US$100 miliwn am lun ar ganfas o 1963 o'r enw Eight Elvises. [1]

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Fe'i anwyd yn Andrej Varhola Jr. ym Pittsburgh, Pennsylvania, yn bedwerydd plentyn Andrej a Julia Varhola. Roedd ei rhieni'n ddosbarth gweithiol, yn wreiddiol o Mikó, Awstria-Hwngari (yn awr Miková yng ngogledd orllewin Slofacia]]). Symudodd ei dad i'r Unol Daleithiau ym 1914, ei fam yn ymuno ym 1921.[2][3] Yn ifanc fe'i ddioddefodd salwch a oedd yn achosi iddo orfod aros yn ei wely am gyfnodau hir ac yn methu mwynhau cwmni'r plant o'i amgylch. Fel canlyniad fe ddatblygydd perthynas agos gyda'i fam ac fe ddaeth yn hypocondriac gyda chasineb o ysbytai. Wrth aros yn ei wely fe gasglodd luniau o sêr ffilm. Pan roedd Warhol yn 13 oed bu farw ei dad mewn damwain. Nes ymlaen yn ei fywyd fe ddisgrifiodd Warhol y cyfnod yma'n adeg bwysig yn ffurfio ei bersonoliaeth.[4] Astudiodd gelf fasnachol ar ôl gadael yr ysgol, yn symud i fwy i Efrog Newydd i ddechrau gyrfa yn arlunio cylchgronau a hysbysebion.

1950au[golygu | golygu cod]

Yn y 1950au, ddaeth Warhol yn enwog am ei ddarluniau inc ar gyfer hysbysebion esgidiau a chloriau recordiau, mewn steil rhydd yn aml yn blotio'r inc tra'n wlyb.[5]

Roedd Warhol yn ddefnyddiwr cynnar o'r proses argraffu sgrin sidan fel techneg ar gyfer gwneud darluniau. Roedd ei brintiau sgrin gyntaf yn cynnwys delweddau wedi'u harlunio â llaw ond fe symudodd ymlaen i brosesau ffotograffig ar gyfer gwneud y sgriniau.[6]

Yn ei lyfr POPism fe ysgrinennodd, "When you do something exactly wrong, you always turn up something."[7]

1960au[golygu | golygu cod]

Warhol (chwith) gyda Tennessee Williams (dde) yn siarad ar y SS France, 1967; yn y cefndir: Paul Morrissey.

Dechreuodd arddangos ei waith mewn orielau celf tra'n gweithio fel arlunydd masnachol yn y 1950au, ond ar ddechrau'r 1960au fe aeth ati i gynhyrchu printiau mawr o delweddau poblogaidd Americanaidd a ddaeth y enwog iawn wrth i Pop ddod y un o fudiadau celf pwysicaf y degawd. Roedd celfyddyd Pop yn ffurf newydd, arbrofol a ddatblygwyd gan artistiaid unigol fel Roy Lichtenstein, Jasper Johns, a James Rosenquist. Trwy ddefnyddio delweddau enwogion, hysbysebion, stribedi comig a phacedi siopa fe geision nhw ddogfenni gyda hiwmor, parodi ac eironi'r gymdeithas o'u hamgylch a natur arwynebol cyfalafiaeth ronc America y 60au. Roedd gwaith Warhol yn seiliedig ar ddelweddau iconau'r cyfnod - boteli Coca-Cola, caniau cawl Campell's, pacedi Brillo, sêr mawr fel Marilyn Monroe, Elvis Presley, Marlon Brando a Elizabeth Taylor a thoriadau papurau newydd neu ffotograffau'n dangos yr heddlu'n ymosod ar brotestwyr hawliau sifil.

Yn fras, lliwgar ac yn hawdd deall, fe ddaeth ei waith yn boblogaidd gyda'r cyhoedd ond hefyd yn creu sioc gyda'u newydder chwyldroadol ac yn ddadleuol am ddiffyg technegau celfyddyd gain draddodiadol.

Ym 1962 fe sefydlodd stiwdio The Factory mewn hen adeilad fawr yng nghanol Efrog Newydd. Fe ddaeth yn fan gyfarfod ar gyfer grŵp o pobl bohemaid – 'Sêr' ffilmiau Warhol - trawswisgwyr ac actorion a modelau gobeithiol. Mae cân Lou Reed, 'Walk on the Wild Side', 1972, yn sôn am gymeriadau'r Factory. Bu enwogion fel Salvador Dalí, Allen Ginsberg, Bob Dylan a Mick Jagger hefyd yn ymwelwr cyson.

Fe gydweithiodd gyda prosiect i sefydlu grŵp roc arbrofol The Velvet Underground, a oedd yn defnyddio'r Factory fel lle ymarfer. Enwir Andy Warhol yn gynhyrchydd record gyntaf y Velvet Underground, er iddo adael y gerddorion gael rhyddid llwyr.

Yn ôl John Cale o'r Velvet Underground, It wasn't called the Factory for nothing. It was where the assembly line for the silkscreens happened. While one person was making a silkscreen, somebody else would be filming a screen test. Every day something new.[8]

Fel cyn arlunydd masnachol roedd Warhol yn gyffyrddus gyda'r syniad o ddefnyddio technegau masnachol i gyflymu'r proses o gynhyrchu'r darluniau. Argraffwyd cyfresi o brintiau, pob un yn gallu cael eu gwerthu yn hytrach na chymryd amser maith i beintio un gynfas unigol. Gadwodd llawr o'r gwaith llafur i’w gynorthwywyr fel Gerard Malanga.

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Rhwng 1963 a1968 fe wnaeth dros 60 o ffilmiau[9] a rhyw 500 o ffilmiau byrion du a gwyn 'prawf sgrin' o ymwelwyr i'r Factory.[10]

Un o'i ffilmiau enwocaf yw Sleep sydd yn dangos y bardd John Giorno yn cysgu am 6 awr. Mae Empire yn dangos wyth awr o'r adeilad y Empire State. Mae'r ffilm Blow Job yn dangos 35 munud o wyneb DeVeren Bookwalter yn derbyn rhiw ceg, er bod y camera byth yn dangos os yw hyn yn wir.[11] Un o ffilmiau mwyaf poblogaidd oedd yr arolesol Chelsea Girls (1966), a ddefnyddiodd ddwy ffilm 16mm wedi'u proseictio ochr ac ochr, yn dangos dwy stori ar yr un pryd. Yn dilyn yr ymgais i'w lofruddio ym 1968 fel rhoddodd Warhol y gorau i wneud ffilmiau gan adael i Paul Morrissey ofalu am ffilmiau'r Factory. Yn y 1970au fe dynwyd y rhan mwyaf o'i ffilmiau rhag cael eu dosbarthiad i sinemâu. Nid yw llawer o'u ffilmiau wedi bod ar gael ar fideo neu DVD.

Rhestr ffilmiau[golygu | golygu cod]
  • Sarah-Soap (1963)
  • Denis Deegan (1963)
  • Kiss (1963)
  • Rollerskate/Dance Movie (1963)
  • Jill and Freddy Dancing (1963)
  • Elvis at Ferus (1963)
  • Taylor and Me (1963)
  • Tarzan and Jane Regained... Sort of (1963)
  • Duchamp Opening (1963)
  • Salome and Delilah (1963)
  • Haircut No. 1 (1963)
  • Haircut No. 2 (1963)
  • Haircut No. 3 (1963)
  • Henry in Bathroom (1963)
  • Taylor and John (1963)
  • Screen Tests (1964)
  • Blow Job (1964)
  • Eat (1964)
  • Soap Opera (1964)
  • Batman Dracula (1964)
  • Couch (1964)
  • Empire (1964)
  • Henry Geldzahler (1964)
  • Taylor Mead's Ass (1964)
  • Harlot (1964)
  • The Life of Juanita Castro (1965)
  • Horse (1965)
  • Vinyl (1965)
  • Poor Little Rich Girl (1965)
  • Beauty No. 1 (1965)
  • Beauty No. 2 (1965)

Ymgais i'w lofruddio (1968)[golygu | golygu cod]

Ar 3 Mehefin, 1968, fe geisiodd yr ysgrifenwraig radicalaidd ffeministaidd Valerie Solanas saethu Warhol a'r beirniad celf Mario Amaya yn y Factory. Roedd Solanas wedi bod yn un o griw y Factory a wedi cael ei ffilmio gan Warhol. Ysgrfenodd Solanas maniffesto ffeministaidd o dan y teitl SCUM Manifesto[12] y llythrennau SCUM yn sefyll dros 'Society for Cutting up Men'. Fe ysgrifennodd hi sgript ffilm gan obeithio buasai Warhol yn ei gynhyrchu. Yn ddig gyda Warhol am ei ddiffyg diddordeb, fe ofynnwyd Solanas adael y Factory ond dychwelodd gyda gwn i'w lladd.[13] .[14][15]

Fe anafwyd Warhol yn ddifrifol, yn cael effaith sylweddol ar ei iechyd, bywyd a chelf am weddill ei fywyd. Fe garcharwyd Solanas. Mae'r ffilm I Shot Andy Warhol,[16], 1996, yn seiliedig ar hanes y digwyddiad.

1970au[golygu | golygu cod]

Andy Warhol a Jimmy Carter, 1977

I gymharu â'r degawd blaenorol, roedd y 1970 yn gyfnod llawer fwy sefydlog i Warhol wrth iddo droi yn ddyn busnes craf gan ganolbwyntio ar greu portreadau ar gomisiwn ar gyfer cleientiaid cyfoethog fel y Brenin Iran, Mick Jagger, Liza Minnelli, John Lennon, Diana Ross a Brigitte Bardot.[17]

Gyda Gerard Malanga fe sefydlodd y cylchgrawn bywyd enwogion Interview ac fe gyhoeddodd The Philosophy of Andy Warhol (1975) yn datgan: "Making money is art, and working is art and good business is the best art." [18]

1980au[golygu | golygu cod]

Bedd Warhol

Erbyn y cyfnod yma beirniadwyd Warhol am fod ond yn 'artist busnes', ei bortreadau o enwogion yn 'fasnachol' ac yn 'arwynebol'. Ym 1980 fe arddangosodd 10 portread o enwogion Iddewig yn Amgeuddfa Iddewig Efrog Newydd – er iddo beidio cael unrhyw ddiddordeb yn Iddewiaeth gan nodi yn ei ddyddiadur 'They're going to sell' [19]

Erbyn hyn mae’r gwaith yma yn cael eu weld gan feirniad fel adlewyrchiad a hunan barodi o'r ffordd mae gweithiau celf wedi dod yn eitemau masnachol i gyfoethogion di-chwaeth yn chwilio am gyfleoedd buddsoddi a'r statws o fod yn berchen ag enw enwog.

Bu farw Warhol yn ei gwsg yn dilyn llawdrinaeth ar 22 Chwefror, 1987

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Andy Warhol painting sells for $105M". New York Daily News. November 13, 2013. Cyrchwyd November 13, 2013.
  2. "Andy Warhol: Biography". Andy Warhol Foundation for the Visual Arts. 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-24. Cyrchwyd 2014-08-14.
  3. "Biography". Warhola.com. Cyrchwyd August 14, 2010.
  4. "The Prince of Pop Art". Arthistoryarchive.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-07. Cyrchwyd August 14, 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Oldham, Andrew; Simon Spence; Christine Ohlman (2002). 2Stoned. London: Secker and Warburg. t. 137. ISBN 0-436-28015-9. OCLC 50215773.
  6. "The blotted line, a primitive type of printing—literally a "press"—was, when he devised it, a way for Andy ..."; ''Pop: The Genius of Andy Warhol'' by Tony Scherman, David Dalton. Books.google.com. 2010-11-23. Cyrchwyd 2014-06-29.
  7. POPism: the Warhol sixties; Andy Warhol, Pat Hackett; p 362. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-20. Cyrchwyd December 4, 2013.
  8. title=Andy Warhol- My 15 minutes | work=The Guardian
  9. "Andy Warhol Filmography". The Internet Movie Database. Cyrchwyd September 29, 2009.
  10. Schaffner (1999), p.73
  11. Husslein, Uwe (1990). Pop goes art: Andy Warhol & Velvet Underground. Wuppertal. OCLC 165575494.
  12. http://en.wikipedia.org/wiki/SCUM_Manifesto
  13. Jobey, Liz, "Solanas and Son," The Guardian (Manchester, England) August 24, 1996: page T10 and following.
  14. Harding, James. "The Simplest Surrealist Act: Valerie Solanas and the (Re)Assertion of Avantgarde Priorities". TDR/The Drama Review 45 (4; Winter 2001): 142–162. doi:10.1162/105420401772990388.
  15. Warhol, Andy; Pat Hacket (1980). POPism: the Warhol '60s. New York City: Harcourt Brace Jovanovich. tt. 287–295. ISBN 0-15-173095-4. OCLC 5673923.
  16. <http://www.imdb.com/title/tt0116594/
  17. "Warhol's Jackson goes on display". BBC News. August 7, 2009. Cyrchwyd March 30, 2010.
  18. Delves Broughton, Philip (2012). The Art of the Sale. New York, NY: The Penguin Press. t. 165.
  19. Lando, Michal (April 8, 2008). "Reexamining Warhol's Jews". The Jerusalem Post. Cyrchwyd January 5, 2009.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]