Metallica
Jump to navigation
Jump to search
Metallica | |
---|---|
Metallica yn yr O2, 2017 | |
Gwybodaeth gefndirol | |
Man geni | Los Angeles, Califfornia, UDA |
Cerddoriaeth | Metel trwm Roc caled |
Blynyddoedd | 1981-presennol |
Label(i) recordio | Warner Bros., Elektra, Vertigo, Megaforce, Sony (Japan) |
Gwefan | www.metallica.com |
Cyn aelodau | |
Jason Newsted Cliff Burton Dave Mustaine Ron McGovney |
Band metel trwm o'r Unol Daleithiau yw Metallica. Maent yn un o'r bandiau metel trwm mwyaf llwyddiannus erioed ac maent wedi gwerthu mwy na 100 miliwn o albymau ledled y byd. Ffurfiwyd y band yn Los Angeles, Califfornia yn 1981 gan James Hetfield (prif leisydd, gitâr rythm) a Lars Ulrich (drymiau). Ar ôl sawl newid, cwblhawyd y band gan Kirk Hammett (gitâr flaen) a Cliff Burton (gitâr fâs). Lladdwyd Burton mewn damwain bws yn 1986. Cafodd ei ddisodli gan Jason Newsted o 1986 i 2001 a chan Robert Trujillo o 2003 i'r presennol.
Disgyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Albymau stiwdio[golygu | golygu cod y dudalen]
- 1983: Kill 'Em All
- 1984: Ride the Lightning
- 1986: Master of Puppets
- 1988: ...And Justice for All
- 1991: Metallica
- 1996: Load
- 1997: ReLoad
- 2003: St. Anger
- 2008: Death Magnetic
- 2011: Lulu (gyda Lou Reed)
- 2016: Hardwired...To Self-Destruct
|