Loeiz-Napoleon Ar Rouz

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Loeiz-Napoleon Ar Rouz
Ganwyd 1890 Edit this on Wikidata
Planiel Edit this on Wikidata
Bu farw 1944 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd Edit this on Wikidata

Roedd Loeiz-Napoleon Ar Rouz neu Louis Napoleon Le Roux (29 Mai 1890 - 5 Awst 1944) yn wleidydd Llydewig ac yn un o sylfaenwyr Strollad Broadelour Breiz, Plaid Genedlaethol Llydaw[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Ar Rouz yn Planiel Aodoù-an-Arvor Llydaw yn un o wyth o blant i felinydd; bu ei frawd Pierre-Andrè Le Roux hefyd yn genedlaetholwr Llydewig amlwg. Louis Le Roux oedd ei enw bedydd. Ei benderfyniad ei hun oedd ategu'r llysenw Napoleon i'w enw yn ei ffurf Ffrangeg swyddogol a'i ffurf Llydaweg answyddogol; er hynny bu ei wrthwynebwyr gwleidyddol yn ceisio honni ei fod yn arwyddo dogfennau efo'r ysgrif Louis N Le Roux o herwydd annheyrngarwch a chywilydd o gael ei gysylltu ag enw un o arwyr mawr Ffrainc.[2].

Ym 1936 priododd a Marion Delia Murphey (1898-1993), yn Eglwys St Andrew's, Westlaand Row, Dulyn, roedd hi'n ferch i William John Murphey golygydd papur newydd gweriniaethol The Clonmel Nationalist[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Ar Rouz yn ennill ei grystyn, yn bennaf, trwy wasanaethu fel ysgrifennydd / cynorthwyydd personol i bobl amlwg mewn bywyd cyhoeddus gan gynnwys y cenedlaetholwr Llydewig Taldir Jaffrennou, y gwleidydd Llafur Prydeinig Ramsay MacDonald, a daeth wedyn yn Brif Weinidog Llafur cyntaf y DU a'r gwleidydd Ceidwadol Prydeinig Harold Macmillan, a daeth hefyd yn Brif Weinidog yn ei dro.

Y Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu honiadau gan ei wrthwynebwyr gwleidyddol bod Louis wedi ffoi Ffrainc am y Swistir yn 1913 er mwyn osgoi consgripsiwn i'r fyddin Ffrengig, ffodd bynnag fe gyflawnodd cyfnod o wasanaeth milwrol gorfodol yn Sant-Maloù o 1910, ac mae llythyrau at gyfaill o gyd filwr o'r cyfnod, Paul Buchet, sydd bellach yn archif Llyfrgell Genedlaethol yr Iwerddon[4], yn awgrymu nad oedd hyn yn wir. Mae'r llythyrau, a anfonwyd o Baris yn ystod 1913, ac yn gynnar yn 1914, yn dangos yn glir fwriad Louis 'i symud i Loegr yn y dyfodol agos. Nid oes unrhyw sôn am gonsgripsiwn neu'r Swistir, yn hytrach mae yna nifer o gyfeiriadau at y gwersi Saesneg mae'n eu cymryd yn ystod 1913. Yn ddi-os, nid oedd yn wrthwynebydd cydwybodol i'r Rhyfel Mawr, gan iddo wasanaethu ym myddin Prydain o fis Mehefin 1916 hyd ei ollyngiad ar sail feddygol ym Medi 1917.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofeb undod Llydaw & Ffrainc Roazhon

Ym 1911 fe fu Ar Rouez, ei frawd a'r bardd Camille Le Mercie yn gyfrifol am ffurfio plaid Strollad Broadelour Breiz, Plaid Genedlaethol Llydaw, plaid a chafodd ei anghyfreithlon gan Lywodraeth Ffrainc ym 1914, ond sydd yn cael ei gydnabod, gan bob ymgyrch a phlaid genedlaethol Lydewig diweddarach, fel sylfaen achos cenedlaethol Llydaw yn yr 20g.

Ffurfiwyd y blaid, yn bennaf, i wrthwynebu codi cofeb yn Roazhon i ddathlu undod Llydaw a Ffrainc ym 1532. Nod y blaid oedd tro ar ôl tro i brotestio yn erbyn gormes Ffrengig, a pharatoi ar gyfer atgyfodiad Llydaw trwy dorri pob cysylltiad rhwng Llydaw a Ffrainc[5][6]

Cysylltiadau Gwyddelig[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae sïon bod An Rouz wedi bod yn gysylltiedig â Gwrthryfel y Pasg, Iwerddon 1916, ond prin yw'r ffynonellau sy'n gallu cadarnhau hynny, ond roedd, yn sicr, yn gefnogwr i'r achos a bu'n agos, fel sylwebydd, i nifer o brif chwaraewyr yr achos. Cyhoeddodd Bywgraffiad er clod i Patrick Pearse ym 1932 a daeth yn ddinesydd Iwerddon blwyddyn yn niweddarach.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn Middlesex Hospital Llundain lle fu'n gwella o'r ffliw pan laniodd bomb V2 ar yr ysbyty.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Pour le séparatisme la question bretonne essai précédé du manifeste Ed. du Parti nationaliste breton - Rennes. 1911
  • La Langue des Relations Interceltiques
  • Le socialisme et la société J. Ramsey Macdonald ; trad. de l'anglais par Louis N. Le Roux ; Paris : F. Flammarion , 1922
  • L'Irlande Militante. La Vie De Patrick Pearse avec une introduction historique et 15 photographies, Imprimerie Commerciale de Bretagne, Rennes, (1932)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Entre Bretagne, Grande-Bretagne et Irlande, le parcours de Louis Napoléon Le Roux
  2. Thierry Jigourel, "Grands rebelles et révoltés de Bretagne", éditions Ouest-France, 2013, ISBN 978-2-7373-6004-6
  3. Marion Delia MURPHY
  4. Le Roux, Louis Napoleon (1890-1944), biographer
  5. Alain Deniel, Le mouvement breton, Maspéro, 1976, ISBN 2-7071-0826-X
  6. Camille O'Reilly, Language, Ethnicity and the State, Palgrave, 2001, p. 119