Lochmaben
| Math | tref, bwrdeistref fach |
|---|---|
| Poblogaeth | 2,200 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Dumfries a Galloway |
| Gwlad | |
| Gerllaw | Kinnel Water |
| Cyfesurynnau | 55.1281°N 3.4413°W |
| Cod SYG | S20000441, S19000479 |
| Cod OS | NY081824 |
![]() | |
Tref fechan yn ne'r Alban ydy Lochmaben (Gaeleg yr Alban: Loch Mhabain). Mae'n safle pwysig ble sefid hen gastell, ar un adeg. Mae'r dref 4 milltir i'r gorllewin o Lockerbie, yn Dumfries a Galloway. Mae Caerdydd 406.1 km i ffwrdd o Lochmaben ac mae Llundain yn 458.8 km. Y ddinas agosaf ydy Caerliwelydd sy'n 41.1 km i ffwrdd.
Mae'r pêl-droediwr Angus Douglas yn enedigol o'r dref.
Saif Carreg lochmaben gerllaw, carreg 7 troedfedd o uchder a arferai fod yn rhan o gylch cerrig Celtaidd. Mae traddodiad lleol yn hawlio mai allan o'r garreg hon y tynnodd Arthur y cleddyf Caledfwlch allan ohoni.
Enw'r dref
[golygu | golygu cod]Mae'n ddigon tebyg fod yr enw'n cyfeirio at y duw Celtaidd Mabon (Maponos), gyda 'Loch' neu 'llyn' yn ei ragflaenu. Dywed rhai, fodd bynnag, mai 'clach' oedd yr enw gwreiddiol, sef y gair Gaeleg am garreg.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Carreg Lochmaben
- Mabon
- Mabon fab Modron
- St Mabyn, pentref yng Nghernyw
- Llanfabon, pentref ger Merthyr Tudful
- Rhiwabon, ger Wrecsam
- Kermabon, lle yn Llydaw, ac enw teuluol


