Llanfabon

Oddi ar Wicipedia

Plwyf ym Merthyr Tudful oedd Llanfabon, wedi ei lleoli tua 5 milltir i'r gogledd-gogledd-orllewin o Gaerffili. Roedd yng ngwmwd Senghenydd, ym Morgannwg.

Yn yr ardal yma roedd teulu Llanbradach yn afer byw. Cysgrwyd yr eglwys leol i Sant Mabon, a galwyd hi ar ei ôl. Mae Mabon, fodd bynnag yn enw llawer hŷn na hyn ac yn deillio o'r duw Celtaidd Mabon fab Modron neu Maponos.

Yn Eglwys Sant Mabon ceir cofeb i gofio am rai o'r bechgyn a laddwyd yn Nhanchwa Glofa'r Albion, Cilfynydd, ar 23 Mehefin 1894.[1] Collwyd 290 o fechgyn a 123 o geffylau yn y ffrwydriad. Daethpwyd i'r canlyniad mai ffrwydriad nwy achosodd y gyflafan, ond nid oedd tystiolaeth beth gynheuodd y ffrwydriad felly ni chyhuddwyd y perchnogion, yr Albion Steam Coal Company, o drosedd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Albion Colliery: The forgotten mining disaster; gwefan y BBC; adalwyd 3 Medi 2016.