Llyn Syfaddan

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llyn Syfaddon)
Jump to navigation Jump to search
Llyn Syfaddan
Lllangorse lake from llangorse mountain.jpg
Math Llyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Edit this on Wikidata
Sir Cymru Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Arwynebedd 1.53 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 154 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 51.931°N 3.2628°W Edit this on Wikidata

Llyn Syfaddan neu Llyn Syfaddon yw llyn naturiol mwyaf de Cymru, gydag arwynebedd o 132 ha (327 acer), tua milltir ar ei hyd a phum milltir (8 km) o gwmpas y glannau. Saif ychydig i'r de-ddwyrain o Aberhonddu, Powys, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a gerllaw pentref Llan-gors, sy'n rhoi'r enw Saesneg Llangorse Lake iddo. Mae Afon Llynfi yn llifo trwy'r llyn.

Mae'r llyn yn nodedig am gynnig pysgota da am nifer o rywogaethau o bysgod, ond yn arbennig Penhwyad. Yma hefyd ceir crannog, sef sefydliad wedi ei adeiladu ar ynys artiffisial mewn llyn. Y crannog yn Llyn Syfaddan yw'r unig esiampl y gwyddir amdano yng Nghymru, er eu bod yn gyffredin yn Iwerddon a'r Alban. Credir fod yr esiampl yma yn dyddio o ddiwedd y 9g. Roedd teulu brenhinol Brycheiniog o darddiad Gwyddelig, ac efallai fod hyn yn egluro presenoldeb crannog yma. Yn 916 ceir cofnod am fyddin Mercia yn dinistrio Brecenanmere, crannog Llyn Syfaddan, yn ôl pob tebyg.

Crannog Llyn Syfaddan.

Llên gwerin[golygu | golygu cod y dudalen]

Adroddir chwedl am y llyn gan Gerallt Gymro, a ddywed fod traddodiad y byddai Adar Syfaddan yn canu pan fyddai gwir dywysog Deheubarth yn gorchymyn iddynt. Yn ôl Gerallt, roedd Gruffudd ap Rhys yn cerdded ar lan y llyn yng nghwmni dau arglwydd Normanaidd, yn y cyfnod pan oedd y Normaniaid wedi cymeryd meddiant o bron y cyfan o Ddeheubarth. Gorchmynodd y ddau Norman i'r adar ganu, heb lwyddiant, ond ar orchymyn Gruffudd codasant i'r awyr a chanu.

Mae hefyd draddodiad am dref wedi ei boddi dan ddyfroedd y llyn fel cosb am ei phechodau.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]