Cosaciaid Zaporizhzhia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llu Zaporizhzhia)

Llu o Gosaciaid a drigai yn rhanbarth hanesyddol Zaporizhzhia, i dde rhaeadrau Afon Dnieper, o'r 16g i'r 18g oedd Cosaciaid Zaporizhzhia. Y llu cyntaf o Gosaciaid Wcreinaidd oeddynt, a ymwahanodd oddi ar y Cosaciaid Rwsiaidd am iddynt siarad Wcreineg yn bennaf yn hytrach na Rwseg. Daethant i reoli'r stepdiroedd yng Nghanolbarth a Dwyrain Wcráin, yr ardal a elwir yn hanesyddol y Meysydd Gwylltion.

Ymgynullodd Cosaciaid rhydd yn rhanbarth Zaporizhzhia yn y cyfnod 1530–50, mewn tiriogaeth yng ngororau eithaf Teyrnas Pwyl (a fyddai'n uno ag Uchel Ddugiaeth Lithwania ym 1569 i ffurfio'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd). Adeiladasant bencadlys mewn llannerch (sich neu sech) yn y corstiroedd coediog o amgylch hen gaer ar un o ynysoedd y Dnieper. Ymledodd aneddiadau'r Llu Zaporizhzhiaidd oddi yno, gan ffurfio lled-wladwriaeth awtonomaidd i raddau a elwir Sich Zaporizhzhia, a fodolai am ryw ddeucan mlynedd.[1]

Byddai marchogion Zaporizhzhia yn crwydro'r stepdiroedd, yn brwydro'r Tatariaid ac yn chwilio am ysbail, weithiau yn dwyn cyrchoedd mawr ar Chaniaeth y Crimea i'r de a Thywysogaeth Moldafia i'r de-orllewin. Byddai'r badwyr a'r pysgotwyr yn hwylio i lawr y Dnieper i ysbeilio a llosgi aneddiadau'r Tyrciaid ar lannau'r Môr Du. Gwisgodd Cosaciaid Zaporizhzhia ddillad lliwgar yn y dull Tataraidd, a byddent yn eillio'u pennau a'u hwynebau gan adael penclymau a mwstashis hirion.[1]

Roedd cymdeithas a nodweddion Llu Zaporizhzhia yn debyg iawn i Lu Rwsiaidd y Don, a bu'r ddau lu yn aml yn cynorthwyo'i gilydd yn filwrol. Y prif wahaniaeth rhyngddynt, ar wahân i'r iaith, oedd natur wrywol yn unig Sich Zaporizhzhia.[1] Urdd filwrol bur oedd Llu Zaporizhzhia, a barics oedd eu cytiau, a ni chaniateid i ferched fyw yn y Sich. Yn wahanol i Gosaciaid y Don, a fyddai'n cael teuluoedd mawr mewn cymunedau ethnig gyda'i gilydd, byddai brwydrwyr unigol y Sich yn ymuno â'r llu ar liwt eu hunain, yn gwasanaethu am ychydig dymhorau neu flynyddoedd, ac yna'n ymsefydlu ac yn amaethu ar gyrion y Sich, dan awdurdod Llu Zaporizhzhia ond y tu allan i ffiniau'r urdd ei hun. O ganlyniad i'r drefn hon, byddai'r gwerinwyr yn y rhanbarth hwn yn ymddiwylliannu â'r Cosaciaid. Daeth y mwyafrif o recriwtiaid y Sich o ardal ganolog y Dnieper, ac yn ôl cofrestr o 1581 roedd 83% o'r llu o dras Wcreinaidd neu Felarwsiaidd, rhyw 10% yn Bwyliaid, a'r gweddill yn Datariaid, Moldafiaid, Circasiaid, Serbiaid, Lifoniaid, ac Almaenwyr. Dim ond ychydig fach iawn o Rwsiaid ethnig oedd yn ymaelodi â Llu Zaporizhzhia. Erbyn 1621 roedd rhyw 40,000 o frwydrwyr yn y llu hwn, gan gynnwys milwyr ychwanegol o Gosaciaid Wcreinaidd eraill.[2]

Yn sgil Gwrthryfel Khmelnytsky (1648–57) yn erbyn Coron Pwyl, daeth Cosaciaid Zaporizhzhia dan benarglwyddiaeth Tsaraeth Rwsia, a dyrchafwyd Hetman Llu Zaporizhzhia yn bennaeth ar wladwriaeth yr Hetmanaeth. Ar y cychwyn, er enghraifft dan arweiniad yr Hetman Ivan Mazepa, bu'r Hetmanaeth yn meddu ar ymreolaeth, ac ymdrechai Ymerodraeth Rwsia yn fwyfwy i reoli Cosaciaid Zaporizhzhia, er enghraifft trwy Golegiwm Rwsia Fechan ym 1722–27. Diddymwyd yr Hetmanaeth trwy orchymyn (ukase) gan Catrin II, Ymerodres Rwsia, ar 10 Tachwedd [21 Tachwedd yn yr Hen Ddull] 1764, a daeth tiriogaeth Cosaciaid Zaporizhzhia dan awdurdod Llywodraethiaeth Rwsia Fechan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Albert Seaton, The Cossacks (Reading, Berkshire: Osprey, 1972), t. 12.
  2. Seaton, The Cossacks (1972), t. 13.