Llywodraethiaeth Rwsia Fechan

Oddi ar Wicipedia
Llywodraethiaeth Rwsia Fechan
Map o Wcráin ym 1800, gyda Llywodraethiaeth Rwsia Fechan yn wyrddlas golau.
Mathgovernorate Edit this on Wikidata
PrifddinasHlukhiv, Kozelets, Kyiv, Chernihiv Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
SirYmerodraeth Rwsia, Ymerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
GwladBaner Ymerodraeth Rwsia Ymerodraeth Rwsia

Tiriogaeth weinyddol yn Ymerodraeth Rwsia oedd Llywodraethiaeth Rwsia Fechan (Rwseg: Малороссiйская Губернiя trawslythreniad: Malorossiiskaia guberniia, Wcreineg: Малоросійська губернія Malorosiiska huberniia) a fodolai o 1764 i 1781 ac eto o 1796 i 1802. Roedd yn cyfateb i raddau helaeth â Glan Chwith Wcráin.

Sefydlwyd y llywodraethiaeth yn gyntaf yn sgil diddymu'r Hetmanaeth trwy orchymyn (ukase) gan Catrin II ar 10 Tachwedd [21 Tachwedd yn yr Hen Ddull] 1764. Sefydlwyd Colegiwm Rwsia Fechan i lywodraethu'r diriogaeth, gyda'i phrifddinas yn Hlukhiv. Symudodd y ganolfan lywodraethol i Jozelets ym 1773 ac i Kyiv ym 1775.[1] Nod y drefn newydd oedd i gael gwared yn gyfangwbl ag ymreolaeth yn Wcráin, gan gynnwys swyddogion milwrol a gwleidyddol y starshyna Cosacaidd, ac i ymelwa ar economi Wcráin er budd Rwsia. Roedd y colegiwm yn cynnwys wyth o aelodau parhaol—pedwar Wcreiniad a phedwar Rwsiad—a benodwyd gan y llywodraeth ymerodrol yn St Petersburg. Llywydd y colegiwm oedd y Cownt Petr Rumiantsev, Llywodraethwr Cyffredinol Wcráin a phencadlywydd yr holl luoedd yn y diriogaeth, gan gynnwys rhanbarth Zaporizhzhia.[2] Diddymwyd y llywodraethiaeth ym 1781, a chafodd ei rhannu'n Rhaglawiaeth Novgorod-Seversky a Llywodraethiaeth Chernigov, ac ymgorffwyd rhannau eraill o'i thiriogaeth yn Rhaglawiaeth Kyiv.[1]

Adferwyd y llywodraethiaeth ym 1796, gan gynnwys yr hen Raglawiaeth Kyiv (ac eithrio'r ddinas ei hun a'r cyrion ar Lan Dde Afon Dnieper), Rhaglawiaeth Novgorod-Seversky, a Llywodraethiaeth Chernigov yn ei thiriogaeth, yn ogystal â thref Kremenchuk a chatrodau Poltava a Myrhorod. Prifddinas y llywodraethiaeth newydd oedd Chernigov. Adferwyd hen drefn farnwrol yr Hetmanaeth yn y llywodraethiaeth newydd, gan gynnwys y Llys Milwrol Cyffredinol, llysoedd yr ystadau, a llys tir pidkomorskyi. Diddymwyd Llywodraethiaeth Rwsia Fechan unwaith eto ym 1802, a chafodd ei rhannu yn llywodraethiaethau Chernigov a Poltava.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Little Russia gubernia", Internet Encyclopedia of Ukraine (2010). Adalwyd ar 14 Mai 2022.
  2. (Saesneg) Oleksander Ohloblyn, "Little Russian Collegium", Internet Encyclopedia of Ukraine (1993). Adalwyd ar 14 Mai 2022.