Glan Dde Wcráin

Oddi ar Wicipedia
Glan Dde Wcráin
Map o Lan Dde Wcráin (melyn) o fewn ffiniau presennol Wcráin (gwyn).
MathUkrainian historical regions Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRhanbarth y Dnieper (Wcráin) Edit this on Wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
GerllawAfon Dnieper Edit this on Wikidata

Rhanbarth hanesyddol yn Wcráin oedd Glan Dde Wcráin (Wcreineg: Правобережна Україна trawslythreniad: Pravoberezhna Ukrayina, Rwseg: Правобережная Украина Pravoberezhnaya Ukraina, Pwyleg: Pravoberezhnaya Ukraina) a leolwyd i orllewin canol Afon Dnieper. Ffiniodd â'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd (yn ddiweddarach Ymerodraeth Rwsia) i'r gogledd a'r gorllewin, Sich Zaporizhzhia i'r de-ddwyrain, Yedisan a Moldafia (dan dra-arglwyddiaeth yr Ymerodraeth Otomanaidd) i'r de-orllewin, a Glan Chwith Wcráin ar ochr draw'r Dnieper i'r dwyrain. Bu ei diriogaeth yn cyfateb i oblastau Volyn, Rivne, Zhytomyr, Vinnytsia a Kirovohrad, gorllewin Oblast Kyiv a glan orllewinol dinas Kyiv, a rhannau o oblastau Cherkasy a Ternopil yn Wcráin heddiw.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), t. 510.