Tsaraeth Rwsia

Oddi ar Wicipedia
Tsaraeth Rwsia
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasMoscfa, St Petersburg Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,000,000, 7,000,000, 11,000,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1547 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Church Slavonic, Rwseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladTsaraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Arwynebedd3,000,000 km², 14,500,000 km², 14,500,000 km² Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholZemsky Sobor Edit this on Wikidata
ArianRŵbl Edit this on Wikidata

Gwladwriaeth yn Nwyrain Ewrop a Gogledd Asia oedd Tsaraeth Rwsia neu Tsaraeth Mysgofi a fodolai o 1547 hyd at sefydlu Ymerodraeth Rwsia ym 1721. Ifan IV (Ifan yr Ofnadwy), Uchel Dywysog Moscfa a Sofran Rwsia Oll ers 1533, oedd y cyntaf i ddwyn y teitl "tsar"—a darddir o "Cesar"—gan felly dyrchafu Uchel Dywysogaeth Moscfa yn Tsaraeth Rwsia ym 1547.[1]

Ar y cychwyn, bu'r tsaraeth yn cynnwys y rhan helaethaf o ogledd a chanolbarth Rwsia Ewropeaidd, a rhywfaint o diriogaeth a leolir heddiw yn y Ffindir, Belarws, ac Wcráin. Wedi ei goroniad ym 1547, aeth Ifan IV ati i atgyfnerthu a chanoli ei rym: lluniodd gyfreithiau newydd y Sudebnik ym 1550; sefydlodd y Zemsky Sobor, y senedd gyntaf yn hanes Rwsia, i gynrychioli dosbarthiadau'r drefn ffiwdal; cwtogodd ar rym y glerigiaeth Uniongred; a chyflwynodd elfen o hunanreolaeth leol yng nghefn gwlad.[2] Teyrnasai Ifan IV hyd at 1584, gan lwyddo i orchfygu tair o'r chaniaethau a olynodd y Llu Euraid—Kazan, Astrakhan, a Siberia—gan bron ddyblygu tiriogaeth Rwsia a'i throi'n bŵer trawsgyfandirol yn Ewrasia.[2][3] Erbyn marwolaeth Fyodor I ac felly diwedd brenhinllin y Rurik ym 1598, ehangodd y tsaraeth i'r dwyrain y tu hwnt i Fynyddoedd yr Wral ac i'r de hyd at Fôr Caspia. Erbyn diwedd yr 16g, Chaniaeth y Crimea oedd y cilcyn olaf o diriogaeth Dataraidd i orllewin Mynyddoedd yr Wral a oedd yn dal i wrthsefyll tra-arglwyddiaeth y Rwsiaid.[4]

Erbyn i Pedr I (Pedr Fawr) esgyn i'r orsedd ym 1689, estynnai'r tsaraeth dros Siberia oll, ac eithrio Gorynys Kamchatka. Ym 1721, datganodd Pedr I ei hunan yn Ymerawdwr Rwsia oll, gan droi'r tsaraeth yn ymerodraeth.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Tsar (title). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Mehefin 2023.
  2. 2.0 2.1 Payne, Robert; Romanoff, Nikita (2002). Ivan the Terrible. t. 520. ISBN 978-0-8154-1229-8.
  3. Wood, Alan (2011). Russia's Frozen Frontier: A History of Siberia and the Russian Far East 1581 - 1991. t. 320. ISBN 978-0-340-97124-6.
  4. (Saesneg) Khanate of Crimea. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Rhagfyr 2021.