Trawswch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dyn gyda thrawswch.

Blew ar y wyneb yw trawswch - neu fwstás - a dyf uwch y gwefus uchaf.

Gellir olrhain y term trawswch i'r 14g; fe'i ceir mewn cerdd gan Lywelyn Goch ap Meurig Hen:

'Dy farf a’th wnaeth gaeth gythrudd
A’th drawswch rawn morwch rhudd'

yn ogystal â cherdd gan Iolo Goch:

'Mefl fflwch i'm trawswch trasyth
O chelaf i ei chael fyth'.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  trawswch. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 14 Mai 2017.