Colegiwm Rwsia Fechan

Oddi ar Wicipedia

Corff gweinyddol Ymerodraeth Rwsia yn yr Hetmanaeth oedd Colegiwm Rwsia Fechan (Rwseg: Малороссийская коллегия trawslythreniad: Malorossiiskaia kollegiia, Wcreineg: Малоросійська колегія Malorosiiska kolehiia) a fodolai o 1722 i 1727.

Yn ôl gorchymyn (ukase) gan y Tsar Pedr I ar 16 Mai [27 Mai yn yr Hen Ddull] 1722, sefydlwyd Colegiwm Rwsia Fechan yn Hlukhiv dan arweiniad y Brigadydd Stepan Veliaminov-Zernov. Nod y corff newydd oedd i oruchwylio'r hetman a'i swyddogion a'r drefn gatrodol ymhlith Llu Cosaciaid Zaporizhzhia.[1]

Yn sgil marwolaeth yr Hetman Ivan Skoropadsky yng Ngorffennaf 1722, cipiwyd grymoedd yr hetman gan y colegiwm, a fyddai'n rheoli gweinyddiaeth, barnwriaeth, a thrysorlys Wcráin am bum mlynedd. O ganlyniad i wrthwynebiad y starshyna, prif swyddogion milwrol a gwleidyddol y Cosaciaid, addawodd Pedr i ddiddymu'r colegiwm, a'r hwnnw a wnaeth ar 29 Medi 1727.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Oleksander Ohloblyn, "Little Russian Collegium", Internet Encyclopedia of Ukraine (1993). Adalwyd ar 14 Mai 2022.