Llanbadrig
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Enwyd ar ôl | Sant Padrig |
Poblogaeth | 1,177 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,405.716 ±0.001 ha |
Yn ffinio gyda | Mechell, Cymuned Amlwch |
Cyfesurynnau | 53.412413°N 4.436658°W |
Cod SYG | W04000011 |
Cod OS | SH3814493389 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Pentref, chymuned a phlwyf eglwysig ar arfordir gogledd Môn yw Llanbadrig. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Talybolion, cantref Cemais.
Mae'r gymuned hon yn cynnwys treflan Clygyrog a phorthladd bychan Cemaes (Porth Wygyr), lleoliad tybiedig maenor cantref Cemais yn yr Oesoedd Canol. Ceir nifer o hen chwareli calchfaen yn yr ardal. Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 1,316 o bobl yn byw yn y gymuned hon a 690 (sef 52.4%) o'r boblogaeth dros dair oed a hŷn Cymuned Llanbadrig yn gallu siarad Cymraeg.[1] Roedd 302 yn ddi-waith, sef 46.7% o'r rhai o fewn yr oedran priodol.
Hanes
[golygu | golygu cod]Enwir Llanbadrig ar ôl Sant Padrig, nawddsant Iwerddon, a cheir eglwys o'r enw, prif eglwys y plwyf, ar yr arfordir ger Cemaes. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu yn y flwyddyn 440 gan Sant Padrig ei hun. Yn ôl chwedl leol, cafodd Padrig ei hun mewn llongdrylliad ar Ynys Badrig, sy'n ynys fechan yn agos i arfordir y plwyf, bron gyferbyn â safle'r eglwys bresennol.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]
Pobl o Lanbadrig
[golygu | golygu cod]- Hugh Owen (Huwco Môn) (1835-1892), hanesydd a aned yng Nghemaes
- John James Hughes (Alfardd) (1842-875), llenor a golygydd Radicalaidd
- Syr Owen Thomas, cadfridog ac Aelod Seneddol
Ffilm
[golygu | golygu cod]Cafodd rhan o'r ffilm Half Light (2006), yn serennu Demi Moore ei ffilmio yn Llanbadrig (ond lleolir y ffilm yn yr Alban).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyfrifiad 2011; gwefan Saesneg "Ystadegau Cenedlaethol y DU". Adalwyd 28 Ebrill 2013.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.