Ynys Padrig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ynys Badrig)
Ynys Badrig
Mathynys Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd0.0178 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.435°N 4.4372°W Edit this on Wikidata
Hyd0.11 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Ynys tua un cilometr oddi ar arfordir gogleddol Ynys Môn yw Ynys Padrig (Saesneg: Middle Mouse). Yr ynys yma yw pwynt mwyaf gogleddol Cymru.

Ar lanw isel, mae'r ynys tua 207 medr o hyd a 110 medr o led, gydag arwynebedd o 3.7 acer. Saif y pwynt uchaf arni 16 medr uwch lefel y môr.

Cysylltir yr ynys a Sant Padrig, nawddsant Iwerddon. Yn ôl y chwedl, llongddrylliwyd ef ar yr ynys yma. Nofiodd i'r tir mawr, ac yno sefydlodd eglwys Llanbadrig.

Rhoddwyd yr ynys ar werth yn 2005.

Ynys Padrig o'r tir mawr

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]