Llaeth hanner sgim

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gweler hefyd: Llaeth sgim
Data cyffredinol
Poteli llaeth organig hanner sgim, Aberystwyth 2021
Arwydd mewn Basgeg ar faeth llaeth hanner sgim

Mae llaeth hanner sgim,[1] defnyddir hefyd llaeth semi sgim yn rhan o'r un broses i greu llaeth sgim ond bod, fel mae'r enw'n awgrymu ychydig fwy o fraster yn weddill na phan fo'r llaeth wedi ei di-frasteru'n llawn. Rhan o boblogrwydd llaeth hanner sgim yw ei fod yn cael ei hyrwyddo fel opsiwn iachach na llaeth cyflawn.[2][3]

Cyfansoddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mewn llaeth sgim mae'r cyfradd o fraster o fewn y llaeth rhwng 1.5 and 1.8% yn Ffrainc.[4] Yn Norwy, Denmarc a'r Ffindir, y dewis arall agosaf yw llaeth sgim, gyda chynnwys braster o 0.7 i 1.5% yn Norwy, 1.5% yn y Ffindir ac 1.5 i 1.8% yn [{Denmarc|Nenmarc]].

Mae'r llaeth wedi'i homogeneiddio a'i basteureiddio,[5] ac mae ganddo oes silff o 13 diwrnod o ystyried ei fod yn cael ei werthu a'i storio'n llugoer.[6]

Gan fod y fitaminau naturiol a braster hydawdd mewn llaeth yn lleihau pan fydd y cynnwys braster yn cael ei leihau, mae'r llaeth hanner sgim yn cael ei gyfoethogi â fitaminau A a D.[7] Mae hefyd yn ofyniad cyfreithiol bod llaeth â chynnwys braster o 1.5% neu rhaid cyfoethogi llai â fitamin D. [5] Mae'r mathau llaeth sgim wedi cael eu hail-fitamin â fitamin A (Retinol) ers y 1960au, fel eu bod yn cynnwys tua'r un faint â llaeth safonol.

Coginio a Manteision iechyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae llaeth hanner sgim yn addas iawn ar gyfer coginio penodol (e.e. crempogau) a phobi.Fe'i awgrymir gan sefydliadau swyddogol megis Llywodraeth Cymru ar gyfer coginio fersiwn iachach o fwyd lle gellid defnyddio llaeth cyflawn neu hufan e.e. mewn rysáit paté macrell cartref.[8] Gwelir hyn hefyd yn y cyngor a roddir i famau beichiog wrth i'r |Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru awgrymu bwyta "bwydydd y llaethdy, fel llaeth, caws, fromage frais ac iogwrt yn bwysig oherwydd eu bod yn cynnwys calsiwm a maetholion eraill sydd a'u hangen ar eich babi. Dewiswch y mathau sydd yn isel mewn braster lle mae hynny'n bosibl. Er enghraifft, llaeth hanner sgim neu sgim, iogwrt efo braster isel a chaws caled hanner-braster. Anelu am ddau neu dri dogn y dydd".[9]

Enwi[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y Gymraeg defnyddir y termau llaeth semi sgim neu llaeth hanner sgim.

Y term Swedeg yw Mellanmjölk ("llaeth canolradd").[10] Cafwyd pryder a gwrthwynebiad i'r term yma pan cyflwynwyd hi gyda'r cynnyrch llaeth hanner sgim newydd yn yr 1970 rhag bod pobl yn cysylltu hi gyda'r term "cwrw canolradd" a ddefnyddwyd am gwrw, Mellanöl. Roedd y cwrw yma'n gymharol cryf ar 4.5 volume percent ac yn gyfrifol am feddwdod ymhlith pobl ifanc yn ôl nifer. Erbyn 1986 roedd canran braster llaeth hanner sgim yn Sweden wedi ei gytuno ar 1.5% ac roedd y term Mellanmjölk wedi ei dderbyn a sefydlogi yn y gymdeithas.[11]

Yn Norwyeg Bokmal defnyddir y term Lettmelk ("llaeth ysafn") am laeth hanner sgim. Defnyddir y term lättmjölk ("llaeth ysgafn") yn Swedeg, ar gyfer yr hyn a elwir yn llaeth sgim yn y Gymraeg ac ekstra lett melk (llaeth ecstra ysgafn") yn Norwyeg.[12]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodyn:DEFAULT:Milk