Khyber Pakhtunkhwa

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Khyber-Pakhtunkhwa)
Khyber Pakhtunkhwa
Mathprovince of Pakistan Edit this on Wikidata
PrifddinasPeshawar Edit this on Wikidata
Poblogaeth26,896,829 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 25 Hydref 1901 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethShah Farman Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPacistan Edit this on Wikidata
GwladPacistan Edit this on Wikidata
Arwynebedd74,521 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaFederally Administered Tribal Areas, Punjab, Islamabad Capital Territory, Azad Kashmir, Gilgit–Baltistan, Badakhshan, Nuristan, Kunar Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.343°N 72.18°E Edit this on Wikidata
PK-KP Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolProvincial Cabinet of Khyber Pakhtunkhwa Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholProvincial Assembly of Khyber Pakhtunkhwa Province Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Governor of Khyber Pakhtunkhwa Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Khyber Pakhtunkhwa Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethShah Farman Edit this on Wikidata
Map

Lleolir Khyber Pakhtunkhwa (Wrdw: خیبر پختونخوا, Pashto: خیبر پښتونخوا) yng ngogledd-orllewin Pacistan am y ffin ag Affganistan. Talaith Ffin y Gogledd-Orllewin (Wrdw: śhumāl maġribī sarhadī sūbha شمال مغربی سرحدی صوبہ, Saesneg: North-West Frontier Province neu NWFP) oedd enw'r dalaith tan 2010. Tarddodd yr enw o gyfnod reolaeth Prydain ar isgyfandir India gan gyfeirio at yr isgyfandir cyfan yn hytrach na thiriogaeth y Pacistan bresennol. Dyma'r lleiaf o bedair talaith Pacistan. Mae'n cynnwys rhan fawr o fynyddoedd uchel yr Hindu Kush. Y brifddinas yw Peshawar, wrth droed y Bwlch Khyber enwog. Mae'n gartref i'r bobl Pashtun ('Pakhtun' yn lleol), sy'n siarad Pashto, ac fe'i gelwir yn Pakhtunistan hefyd o'r herwydd. Ceir sawl grŵp ethnig arall, llai, yn yr ardal. Poblogaeth: tua 20 miliwn.

Lleoliad y dalaith ym Mhacistan

O fewn Pacistan, mae'r dalaith yn ffinio â'r rhanbarth a elwir heddiw yr Ardaloedd Llwythol dan Weinyddiaeth Ffederal neu FATA (Federally Administred Tribal Areas) i'r de-orllewin, a fu yn rhan o'r NWFP hanesyddol ar un adeg, gyda Gilgit–Baltistan i'r gogledd-ddwyrain, y Kashmir Bacistanaidd i'r dwyrain, ac Islamabad a'r Punjab i'r de. Mae'n gyffwrdd hefyd â darn o orllewin Gweriniaeth Pobl Tsieina yn y gogledd eithaf.

Rhennir y dalaith yn sawl dosbarth ac ardal yn cynnwys Chitral, Dir, Swat, Buner a Kohal yn y gogledd a Handu a Dera Ismail Khan yn y de.

Llywodraeth ranbarthol[golygu | golygu cod]

Map o ddosbarthau Khyber Pakhtunkhwa a FATA.
Ym mynyddoedd y gogledd.

Rheolir y dalaith gan Gynulliad Daleithiol gyda 124 sedd.

Dosbarthau[golygu | golygu cod]

Ceir 24 dosbarth (district) yn Khyber Pakhtunkhwa.

Dinasoedd[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]