Kevin McCloud

Oddi ar Wicipedia
Kevin McCloud
Ganwyd8 Mai 1958, 8 Mai 1959, 1959 Edit this on Wikidata
Swydd Bedford Edit this on Wikidata
Man preswylGwlad yr Haf Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, cyflwynydd, cynllunydd, newyddiadurwr, cyflwynydd teledu, darlledwr Edit this on Wikidata
Taldra6.2 troedfedd Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata

Dylunydd, awdur, newyddiadurwr a chyflwynydd teledu Seisnig ydy Kevin McCloud (ganwyd 8 Mai 1958). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei waith ar gyfres Channel 4, Grand Designs. Mae'n byw mewn ffermdy 15g yn Frome, Gwlad yr Haf,[1] gyda'i wraig Suzanna "Zani" sy'n rhedeg busnes dylunio mewnol arlein, a'u dau o blant, yn ogystal â Hugo (ganwyd 1988) a Grace (ganwyd 1991) o gyn-berthynas Kevin.[2][3]

Ganwyd McCloud yn Swydd Bedford, a magwyd ef a'i ddau frawd, Terence a Graham, mewn tŷ ag adeiladwyd gan eu rhieni.[4] Mynychodd McCloud Ysgol Ramadeg Dunstable a drodd yn Ysgol Uwch Manshead, Dunstable, ac astudion Hanes Celf a Phensaerniaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae McCloud yn siarad Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg.

Dylunydd[golygu | golygu cod]

Wedi graddio, hyfforddodd a gweithiodd fel dylunydd theatr, a dechreuodd ei gwmni iu hun yn y busnes dylunio goleuo a gweithgynhyrchu, 'McCloud Lighting' - ar un adeg bu'n cyflogi 26 o bobl.[4] Mae ei waith yn cynnwys y nenfwd yn Neuadd Fwyd Harrods sydd wedi ei gerfio a'i baentio, a nifer o brosiectau ar y cyd â J.J Desmond Interiors a gosodiadau goleuo yn Eglwys Gadeiriol Ely, Castell Caeredin, y Savoy a'r Dorchester Hotel ac hefyn yn archfarchnad Tesco yn Finglas, Dulyn, Iwerddon.[5] Erbyn heddiw mae'n canolbwyntio ar waith teledu, newyddiaduriaeth a dylunio cynnyrch, gan gynnwys gwaith ar gyfer gweithgynhyrchwyr Prydeinig megis Fired Earth.[6]

Cyhoeddwyd llyfr cyntaf McCloud, Kevin McCloud's Decorating Book, ym 1990, ac mae'n parhau i fod mewn print mewn pum iaith. Cyhoeddwyd The Techniques of Decorating a Kevin McCloud's Lighting Book ym 1995, a The Complete Decorator ym 1996. Gwobrwywyd gyda gradd anrhydedd Doesthuriaeth Dylunio yn 2005, gan Brifysgol Brookes Rhydychen a Phrifysgol Plymouth. Yn 2006 gwobrwywyd â Chymrodoriaeth Anrhydeddus o'r Royal Institute of British Architects. Mae'n noddwr i Somerset Arts, Carymoor Environmental Centre a'r Genesis Project ac mae'n llysgennad dros y WWF, yn ymgyrchu'n weithredol i hybu One Planet Living, menter cynaliadwyedd WWF.

Daeth yn Gymrodor Anrhydeddus o'r Society of Light & Lighting (SLL) yn 2009.

Cyflwynydd teledu[golygu | golygu cod]

Gwahoddwyd Kevin i ymddangos fel cyflwynydd gwadd ar y teledu yn gyntaf gan raglen Homefront ar BBC Two. Aeth ymlaen i ysgrifennu a chyflwyno Grand Designs, rhaglen ynymdrin phrosiectau pensaerniaeth anarferol, cynhyrchwyd gan Talkback Thames,ac mae erbyn hyn yn ei nawfed gyfres. Mae wastad yn aros yn feirniadol o'r dyluniadau, trwy'r amser yn gobeithio am dŷ i gael ei ddylunio a fydd yn dilyn yr amserlen yn gywir ac yn aros o fewn y gyllid ag amcangyfrwyd.

Ysgrifennodd a chyflwynodd hefyd Grand Designs Indoors a Grand Designs Abroad. Yn yr ail o'r rhain, dangosodd McCloud ei ruglder mewn Ffrangeg ac Eidaleg, a weithiau yn actio fel cyfieithydd ar gyfer y pobl a oedd yn adeiladu eu tai tramor ond nad oedd yn gwybod yr iaith. Mae hefyd yn olygydd cylchgrawn Grand Designs, ac eisteddodd ar bwyllgor llywio'r arddangosfa cysylltiedig, "Grand Designs Live" yn 2005 a 2006.

Ym Mai 2008, aeth McCloud a'r gyfres Grand Designs i lefel newydd gyda Grand Designs Live, gan arddangos dulliau adeiladu a oedd yn sensitif i'r amgylchedd, ar safle yn Nwyrain Llundain, yn ogystal â chyflwyno cystadleuaeth "Grand Design of the Year". Ymysg ei gyd-gyflwynwyr oedd Dave Gorman, Janet Street-Porter, Naomi Cleaver, Diarmuid Gavin a Bill Bailey.

Mae ei waith teledu arall yn cynnwyd Don't Look Down ar BBC Two yn 2000, lle astudiodd McCloud adeiladwaith adeiladau tal tra'n eu dringo, Demolition ar Channel 4 yn 2005, The Stirling Prize: Building of the Year (yn 2004, 2005, 2006,2007 a 2008), a Kevin McCloud and the Big Town Plan ar Channel 4 yn Awst 2008. Mae ei gyhoeddiadau diweddar yn cynnwys Choosing Colours yn 2003, a "Grand Designs Handbook: The Blueprint" yn 2006. Mae'n brysur yn ysgrifennu llawlyfr prynwyr i gynaliadwyedd a newid diwylliant.

Ar 30 Tachwedd 2008, ymddangosodd ar erthygl Star in a Reasonably-Priced Car ar raglen Top Gear. Gorffenodd gyda amser o 1:45.87, yn ail ar fwrdd yr arweinwyr tu ôl i Jay Kay, a orffennodd â amser o 1:45.83.[7]

Datblygwr[golygu | golygu cod]

Yn gynnar yn 2007, arweiniodd McCloud gonsortiwm i brynu dau lain o dir i ddatblygu tai HAB, yn sefyll am hapusrwydd, pensaerniaeth a phrydferthwch (happiness, architecture and beauty), ar gyrion Swindon, Wiltshire.[8] Aeth gwaith dylunio yn ei flaen ar gyfer adeiladau cynaliadwy, gyda chais cynllunio i gael ei argymell ym Mai 2008. Ond, wedi anghytuno ynglŷn â'r taliadau, cafwyd wared ar y penseiri Wright & Wright, gan oedi'r prosiect, ac o bosib eu gorfodi i ddechrau o'r dechrau gyda phenseiri newydd, Glen Howells. Datganodd McCloud "I'm not going to pull out now...", gan ailadrodd ei gefnogaeth ar gyfer y prosiect.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Somerset celebrities: Who do you think should be on the list?. BBC. Adalwyd ar 16 Ionawr 2010.
  2.  Kevin McCloud's Biography. TV Lives. Adalwyd ar 16 Ionawr 2010.
  3.  Interview: Kevin McCloud on the return of Grand Designs. The Daily Telegraph (5 Chwefror 2009).
  4. 4.0 4.1  Building sight. The Observer (2 Tachwedd 2003).
  5.  Grand Designs Extras > Kevin McCloud Biography. Channel4. Adalwyd ar 16 Ionawr 2010.
  6.  NEW! Colour Now book by Kevin McCloud available to buy in store. Fired Earth. Adalwyd ar 16 Ionawr 2010.
  7. Top Gear, Cyfres 12, Pennod 5 (30 Tachwedd 2008).
  8.  Green living at Grand Designs. The Sunday Times (7 Hydref 2007).
  9.  Grand Redesign?. Swindon Web (2 Mehefin 2009).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]