Kevin Allen
Gwedd
Kevin Allen | |
---|---|
Ganwyd | 15 Medi 1962 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, cyfarwyddwr ffilm, actor ffilm, sgriptiwr, actor teledu |
Adnabyddus am | Twin Town |
Actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilmiau yw Kevin Allen (ganwyd 15 Medi 1962 yn Abertawe). Ym 1997, cyfarwyddodd y comedi dywyll Cymreig Twin Town ac mae hefyd wedi cyfarwyddo The Big Tease a Agent Cody Banks 2:Destination London. Brawd iau'r digrifwr Keith Allen ac ewythr i'r gantores bop Lily Allen yw e.
Daeth Allen i'r amlwg am y tro cyntaf ym 1990 pan grëodd raglen ddogfen am Rownd Derfynol Cwpan y Byd trwy lygad cefnogwr o Loegr fel rhan o gyfres Video Diaries y BBC. Cafodd ei rôl actio gyntaf yn The Comic Strip Presents (Channel 4) cyn iddo symud ymlaen i'r comedi sefyllfa The Thin Blue Line (Tiger Aspect Productions ar ran y BBC) a'r ffilm Spice World (1997).
Teledu
[golygu | golygu cod]- Gems (1988)
- Bernard and the Genie (1991)
- Look at it this Way (1992)
- Bottom (1995)
- The Thin Blue Line (1995)
- French and Saunders (1996)
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]- Spice World (1997)
- Twin Town (1997)
- Dan y Wenallt/Under Milk Wood (2015)