Jennifer Saunders
Jennifer Saunders | |
---|---|
![]() Saunders yn Melbourne, Awstralia ar 23 Ebrill 2014 | |
Enw bedydd | Jennifer Jane Saunders |
Geni | 6 Gorffennaf 1958 Sleaford, Lincolnshire, Lloegr |
Cyfrwng | Teledu, ffilm |
Cenedligrwydd | Prydeinig |
Blynyddoedd gwaith | 1981–presennol |
Genres | Comedi, parodi |
Priod | Adrian Edmondson (pr. 11 Mai 1985) |
Digrifwr, sgriptiwr, actores a chantores Seisnig ydy Jennifer Jane Saunders (ganed 6 Gorffennaf 1958). Mae hi wedi ennill dwy wobr BAFTA, Gwobr Emmy Rhyngwladol, Gwobr Gomedi Brydeinig, Gwobr Gŵyl Adloniant Ysgafn Rode d'Or, dwy wobr y Writers' Guild of Great Britain Awards, a Gwobr Peoples Choice.
Daeth Saunders i amlygrwydd yn ystod y 1980au a dechrau'r 1990au pan oedd yn aelod o The Comic Strip wedi iddi raddio o'r Central School of Speech and Drama. Ynghyd â'i phartner comedi Dawn French, ysgrifennodd ac actiodd yn eu sioe sgetsys, French & Saunders, a derbyniodd glod rhyngwladol am chwarae'r brif rhan yng nghomedi sefyllfa'r BBC Absolutely Fabulous.
Mae hi hefyd wedi ymddangos fel gwestai yn y comedïau sefyllfa Americanaidd Roseanne a Friends, ac enillodd y People's Choice Award Americanaidd am leisio rhan y Tylwyth Teg creulon yn ffilm animeiddiedig 'DreamWorks' Shrek 2. Yn fwy diweddar, ysgrifennodd ac actiodd yn Jam & Jerusalem a The Life and Times of Vivienne Vyle.