Dawn French

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dawn French
Dawn French 4.jpg
Llais Dawn french bbc radio4 desert island discs 23 12 2012.flac Edit this on Wikidata
Ganwyd 11 Hydref 1957 Edit this on Wikidata
Caergybi Edit this on Wikidata
Man preswyl Fowey Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ganolog Llefaru a Drama Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Digrifwr, nofelydd, Ysgrifennwr, actor llwyfan, actor ffilm Edit this on Wikidata
Priod Mark Bignell Edit this on Wikidata

Digrifwr, sgriptiwr ac actores yw Dawn French (ganwyd 11 Hydref 1957). Mae'n nodedig am y gyfres French and Saunders, ar y cyd gyda'i phartner Jennifer Saunders. Bu hefyd yn chwarae rol Geraldine Granger yn y gyfres gomedi The Vicar of Dibley.[1]

Cafodd ei henwebu saith gwaith am wobr y British Academy Television Awards ac enillodd y BAFTA Fellowship, gyda Jennifer Saunders. Gwrthododd dderbyn OBE yn 2001.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganwyd yng Nghaergybi pan oedd ei thad yn Yr Awyrlu Brenhinol ac wedi ei leoli yn RAF y Fali. O Loegr y daeth ei rhieni, Denys Vernon French (5 Awst 1932 – 11 Medi 1977)[2] a Felicity Roma French (née O'Brien),[3] a briodwyd yn Plymouth yn 1953. Derbyniodd ei haddysg yn ysgol breifat St Dunstan's Abbey School (Plymouth College heddiw). Mae ganddi frawd, Gary (g. 1955). Yr RAF a dalodd yn rhannol am ei haddysg breifat.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dawn French: "I just had a lot of fun", Manchester Evening News. Retrieved 11 Mai 2007.
  2. Births, Marriages and Deaths Index – England & Wales
  3. Carpenter, Julie (24 Ebrill 2012). "Dawn French: I've lost the mum who inspired me". http://www.express.co.uk/news/showbiz/316187/Dawn-French-I-ve-lost-the-mum-who-inspired-me.
  4. Dawn French bio dawnfrench.tripod.com; adalwyd 2 Mehefin 2007.