Lily Allen
| Lily Allen | |
|---|---|
| Ganwyd | Lily Rose Beatrice Allen 2 Mai 1985 Hammersmith |
| Man preswyl | Cotswolds, Notting Hill, Islington |
| Label recordio | London Records, Capitol Records, Regal Recordings, Warner Bros. Records, Parlophone Records, EMI |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, actor, actor ffilm, cyflwynydd teledu, cyflwynydd, artist recordio, pop musician, cyfansoddwr, canwr, cerddor |
| Cyflogwr | |
| Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, grime, synthpop, indie pop, Ska, cyfoes R&B |
| Math o lais | soprano |
| Tad | Keith Allen |
| Mam | Alison Owen |
| Priod | David Harbour, Sam Cooper |
| Gwobr/au | Ivor Novello Awards, Ivor Novello Awards |
| Gwefan | https://lilyallenmusic.com/ |
Mae Lily Rose Beatrice Allen (ganed 2 Mai 1985) yn gantores-cyfansoddwraig pop o Loegr. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei chaneuon "Smile", "LDN", "Littlest Things", "Alfie", ei fersiwn hi o "Oh My God", "The Fear" a'i harddull "Mockney". Merch yr actor, digrifwr a'r cerddor Keith Allen a'r cynhyrchydd ffilm Alison Owen ydyw. O'r 12fed o Chwefror 2008, cyflwynodd Allen ei sioe ei hun ar BBC Three o'r enw Lily Allen and Friends.
Ei bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Roedd Allen wedi cael ei geni yn Hammersmith, Gorllewin Llundain, yn ferch i'r digrifwr o Cymru a Actor Keith Allen ar cyfarwyddwr ffilm Alison Owen. Symudodd ei theulu i Ogledd Llundain i fwrdeistref Islington. Mae ganddi chwaer hŷn, Sarah; a brawd iau, Alfie Owen-Allen (testun ei chân 'Alfie'); a chwaer iau Rebecca. Mae ganddi nifer o hanner-brodyr a chwiorydd. Am gyfnod, bu Allen yn byw gyda'r digrifwr Harry Enfield tra'r oedd ei mam ac yntai'n canlyn. Mae hefyd yn ferch-bedydd i leisydd y Wild Colonials, Angela McCluskey. Cyfeirir at y canwr a gitarydd Joe Strummer o fand The Clash fel tad-bedydd iddi; er nad yw hyn yn llythrennol wir, roedd Strummer yn glos i Allen. Dywed Allen fod ganddi atgofion melys o'r wythnos a hanner y treuliodd y ddau ohonynt gyda'i gilydd yng Ngŵyl Glastonbury.
Gwobrau ac enwebiadau
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Gwobr | Categori | Canlyniad |
|---|---|---|---|
| 2006 | Q Awards | Act Newydd Gorau | Enwebwyd |
| Digital Music Awards | Artist Pop Gorau | Enillodd | |
| 2007 | Gwobrau'r BRITs | Artist Benywaidd Unigol Gorau | Enwebwyd |
| Albwm Prydeinig Mastercard (Alright, Still) | Enwebwyd | ||
| Act Newydd Gorau | Enwebwyd | ||
| Gwobrau Fideo Cerddorol MTV | Artist Newydd Gorau | Enwebwyd | |
| Gwobrau NME | Dillad Gwaethaf | Enillodd | |
| 2008 | Gwobrau'r Grammy | Albwm Cerddoriaeth Gwahanol Gorau (Alright, Still) | Enwebwyd |
| Gwobrau Ffasiwn y Stryd Fawr | Seren wedi gwisgo orau | Enwebwyd | |
| Gwobrau BMI | ("Smile") | Enillodd |