Kabsa
Enghraifft o'r canlynol | bwyd |
---|---|
Math | rice dish |
Deunydd | reis, cig, Cardamom, cneuen yr India, deilen 'bay', sinamon, leim du, nionyn, tomato |
Gwlad | Iemen |
Yn cynnwys | reis |
Enw brodorol | كبسة |
Gwladwriaeth | Sawdi Arabia, Iemen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dysgl o reis arbennig yw Kabsa (Arabeg: كبسة kabsah), wedi'i weini ar gyfer grwp o bobl,[1] ac sy'n tarddu o Sawdi Arabia ond sydd heddiw'n cael ei ystyried fel dysgl genedlaethol gwledydd penrhyn Arabia.
Gwneir y dysgl gyda reis a chig. Yn aml gellir dod o hyd iddo wedi'i arlwyo mewn gwledydd fel Sawdi Arabia, Coweit, Bahrain, Qatar, yr Emiradau Arabaidd Unedig, Oman, Iemen, Ahwaz (Iran) ac anialwch Negev yn Israel. Gelwir y dysgl hefyd yn makbūs / machbūs (مكبوس/مچبوس (mɑtʃˈbuːs).
Etymoleg
[golygu | golygu cod]Mae'r enw'n dod o'r gair kabasa (Arabeg: كبس), sy'n golygu'n llythrennol 'pwyso' neu 'wasgu', gan gyfeirio at y dechneg a ddefnyddir wrth goginio lle mae'r cynhwysion i gyd wedi'u gwasgu ac yna eu coginio mewn un pot.
Cynhwysion
[golygu | golygu cod]Gwneir y prydau hyn fel arfer gyda reis (basmati fel arfer), cig, llysiau, a chymysgedd o sbeisys. Mae yna lawer o fathau o kabsas ac mae gan bob math rywbeth unigryw yn ei gylch.
Mae sbeisys kabsa wedi'u cymysgu ymlaen llaw bellach ar gael o dan sawl enwau brand. Mae'r rhain yn lleihau'r amser paratoi, ond gallant fod â blas sy'n wahanol i kabsa traddodiadol. Y sbeisys a ddefnyddir mewn kabsa sy'n bennaf gyfrifol am ei flas; pupur du, clof, cardamom, saffrwm, sinamon, leim du, dail <i>bay</i> a nytmeg yw'r rhai arferol.[2]
Y prif gynhwysyn sy'n cyd-fynd â'r sbeisys yw'r cig. Y cigoedd a ddefnyddir fel arfer yw cyw iâr, cig gafr, cig oen, cig camel, cig eidion, pysgod neu gorgimwch . Mewn machbūs cyw iâr, defnyddir cyw iâr cyfan.
Gellir ychwanegu at y sbeisys, y reis a'r cig gydag almonau, cnau pinwydd, cnau mwnci, winwns a syltanas.[3] Gall y ddysgl gael ei addurno gyda ḥashū (Arabeg: حشو ) a'i arlwyno'n boeth gyda daqqūs (Arabeg: دقّوس), sy'n saws tomato Arabeg a wneir gartref.
Dulliau coginio
[golygu | golygu cod]Gellir coginio cig ar gyfer kabsa mewn sawl ffordd. Gelwir ffordd boblogaidd o baratoi cig yn mandi. Mae hon yn dechneg hynafol sy'n tarddu o Yemen, lle mae cig yn cael ei farbeciwio mewn twll dwfn yn y ddaear sy'n cael ei orchuddio wrth i'r cig goginio. Ffordd arall o baratoi a gweini cig ar gyfer kabsa yw mathbi, lle mae cig wedi'i sesno yn cael ei grilio ar gerrig gwastad sy'n cael eu rhoi ar ben y marwydos. Mae trydydd dechneg, madghūt, yn cynnwys coginio'r cig mewn popty pwysau uchel (pressure cooker).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]cyfeiriadauˌ
- ↑ The Report: Qatar 2015. Oxford Business.
- ↑ "Al Kabsa - Traditional Rice dish". Food.com. Cyrchwyd 23 June 2012.
- ↑ "How to Make Kabsa". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-17. Cyrchwyd 23 June 2012.