Judi Dench

Oddi ar Wicipedia
Judi Dench
GanwydJudith Olivia Dench Edit this on Wikidata
9 Rhagfyr 1934 Edit this on Wikidata
Efrog Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain, Outwood Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ganolog Llefaru a Drama
  • Clifton Pre-preparatory School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, actor teledu, actor llais, hunangofiannydd, actor llwyfan, cyfarwyddwr ffilm, cyfarwyddwr theatr, actor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadReginald Arthur Dench Edit this on Wikidata
MamEleonora Olive Jones Edit this on Wikidata
PriodMichael Williams Edit this on Wikidata
PlantFinty Williams Edit this on Wikidata
PerthnasauRebekah Elmaloglou, Sebastian Elmaloglou Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Laurence Olivier, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Praemium Imperiale, Gwobr Cymdeithas Academi BAFTA, Gwobr yr Academi am Actores Gynhaliol Orau, Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Celf (FRSA), doethur anrhydeddus Prifysgol St Andrews, Benjamin Franklin Medal, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, Gwobr Cyflawniad Oes yr Academi Ffilm Ewropeaidd, Gradd er anrhydedd o Brifysgol Leeds, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain, Critics' Circle Award for Distinguished Service to the Arts, Gwobr Theatr yr Evening Standard am yr Actores Orau, Gwobr Laurence Olivier i'r Actores Orau mewn Miwsical, IFTA Lifetime Achievement Award Edit this on Wikidata

Mae Judith Olivia Dench, CH, DBE, FRSA, (ganwyd 9 Rhagfyr 1934), a adnabyddir fel Judi Dench, yn actores Seisnig. Mae hi wedi ennill naw BAFTA, saith Gwobr Laurence Olivier, dwy Wobr y Gymdeithas Actorion Sgrîn, Gwobr yr Academi, dwy Wobr Golden Globe a Gwobr Tony.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Judy Dench yn Efrog, Gogledd Riding yn Swydd Efrog, yn ferch i Eleanora Olave (née Jones), a ddaethai o Ddulyn yn wreiddiol, a Reginald Arthur Dench, doctor a gyfarfu a mam Judi tra'n astudio meddygaeth yng Ngholeg y Drindod. Magwyd Dench fel Crynwr a thrigai yn Tyldesley, Manceinion Ehangach. Mae ganddi berthnasau enwog, gan gynnwys ei brawd, yr actor Jeffrey Dench a'i nith Emma Dench, hanesydd Rhufeinig ym Mhrifysgol Llundain ac yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Harvard, Caergrawnt, Massachusetts.

Pan oedd Dench yn 13 oed, mynychodd The Mount School, Efrog. Ym 1971, priododd Dench yr actor Prydeinig Michael Williams a chawsant eu hunig blentyn, Tara Cressida Williams (aka "Finty Williams"), ar y 24ain o Fedi 1972. Dilynodd hithau yn olion traed ei rhieni, gan ddod yn actores cydnabyddedig ei hun.

Perfformiodd Dench a'i gŵr gyda'i gilydd mewn nifer o gynhyrchiadau llwyfan, yn ogystal ag ar wahan, ond cyd-weithiodd y ddau gyda'i gilydd yng nghomedi sefyllfa Bob Larbey, A Fine Romance (1981–84).

Bu farw Michael Williams o gancr yr ysgyfaint yn 2001, yn 65 oed.

Yn hunangofiant Laurence Olivier Confessions of an Actor (Weidenfeld & Nicolson, 1982), disgrifiodd Dench fel 'the scrumptious Judi Dench'.

Bywyd Cyhoeddus[golygu | golygu cod]

Ym Mhrydain, ystyrir Dench fel un o'r actorion gorau ers yr Ail Rhyfel Byd, yn bennaf oherwydd ei gwaith yn y theatr a fu'n un o'i chryfderau trwy gydol ei gyrfa. Fwy nag unwaith, mae Dench wedi cael ei dewis fel un o actorion gorau'r DU.

Rhoddwyd OBE i Dench ym 1970 a chynyddodd ei phoblogrwydd pan gymrodd rôl M yn y gyfres ffilm James Bond ym 1995. Mae Dench hefyd yn noddwraig The Leaveners, Friends School Saffron Walden a Theatr the Archway, Horley, DU. Daeth yn lywydd Academi Mountview ar gyfer Celfyddydau'r Theatr yn Llundain yn 2006, gan gymryd drosodd o Syr John Mills. Hi yw llywydd y Theatr Questors hefyd. Ym Mai 2006, daeth yn Gymrawd Anrhydeddus o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Mae hi hefyd yn noddwraig i Ysgol Ovingdean Hall, ysgol ddydd a phreswyl ar gyfer y byddar a'r trwm eu clyw yn Brighton.

Mae Dench yn Gymrawd Anrhydeddus yng Ngholeg Lucy Cavendish, Caergrawnt. Yn 2000-2001 derbyniodd radd anrhydeddus o Brifysgol Durham. Ar y 24ain o Fehefin 2008, rhoddwyd gradd anrhydeddus (D.Litt) iddi gan Brifysgol St Andrews yn seremoni graddio'r brifysgol.

Filmography[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Ffilm Rôl Nodiadau
1964 The Third Secret Miss Humphries
1965 Four in the Morning Gwraig
A Study in Terror Sally
He Who Rides a Tiger Joanne
1968 A Midsummer Night's Dream Titania
1973 Luther Katherine
1974 Dead Cert Laura Davidson
1978 Langrishe, Go Down Imogen Langrishe (Ffilm deledu'r BBC)
1985 The Angelic Conversation (adroddwr)
Wetherby Marcia Pilborough Enwebwyd — Gwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Rôl Gefnogol
A Room with a View Eleanor Lavish Gwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Rôl Gefnogol
1987 84 Charing Cross Road Nora Doel Enwebwyd — Gwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Rôl Gefnogol
1988 A Handful of Dust Mrs. Beaver
1989 Henry V Mistress Quickly
Behaving Badly Bridget Mayor Channel 4 cyfres deledu
1995 Jack and Sarah Margaret
GoldenEye M
1996 Hamlet Hecuba
1997 Mrs. Brown Y Frenhines Fictoria
Tomorrow Never Dies M
1998 Shakespeare in Love Y Frenhines Elizabeth
1999 Tea with Mussolini Arabella
The World Is Not Enough M
2000 Into the Arms of Strangers: Stories of the Kindertransport (adroddwr) (dogfen)
The Last of the Blonde Bombshells Elizabeth (Teledu)
Chocolat Armande Voizin
2001 Iris Iris Murdoch
The Shipping News Agnis Hamm Enwebwyd — Gwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Rôl Gefnogol
Enwebwyd — Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Actor Benywaidd mewn Rôl Gefnogol
2002 The Importance of Being Earnest Lady Augusta Bracknell
Die Another Day M
2003 Bugs! (adroddwr) (pwnc byr)
2004 Home on the Range Mrs. Caloway (llais)
The Chronicles of Riddick Aereon
Ladies in Lavender Ursula
2005 Pride & Prejudice Lady Catherine de Bourg
Mrs Henderson Presents Mrs. Laura Henderson Nomination — Academy Award for Best Actress
Nomination — BAFTA Award for Best Actress in a Leading Role
Nomination — British Independent Film Award for Best Actress
Nomination — Broadcast Film Critics Association Award for Best Actress
Nomination — Golden Globe Award for Best Actress – Motion Picture Musical or Comedy
Nomination — London Film Critics Circle Award for British Actress of the Year
Nomination — Screen Actors Guild Award for Outstanding Performance by a Female Actor in a Leading Role
Nominated — Satellite Award for Best Actress – Motion Picture Musical or Comedy
2006 Doogal (adroddwr)
Casino Royale M Enwebwyd — Gwobr Ffilm Cenedlaethol am yr Actores Orau
Notes on a Scandal Barbara Covett Gwobrau Ffilm Annibynnol Prydeinig 2007 am yr Actores Orau
Gwobrau Ffilm yr Evening Standard am yr Actores Orau
Enwebwyd — Gwobr yr Academi am yr Actores Orau
Enwebwyd — Gwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Prif Rôl
Enwebwyd — Cymdeithas Beirniaid Darlledu Ffilm am yr Actores Orau
Enwebwyd — Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Chicago am yr Actores Orau
Enwebwyd — Gwobr Golden Globe am yr Actores Orau - Ffilm
Enwebwyd — Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Llundain am yr Actores Orau
Enwebwyd — Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Llundain am yr Actores Brydeinig y Flwyddyn
Enwebwyd — Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Actor Benywaidd mewn Prif Rôl
2007 Go Inside to Greet the Light (adroddwr)
2008 Quantum of Solace M
2009 Rage Mona Carvell
Nine Liliane La Fleur ôl-gynhyrchu
2011 Bond 23 M wedi'i gyhoeddi