Tomorrow Never Dies
Poster y Ffilm | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Roger Spottiswoode |
| Cynhyrchydd | Barbara Broccoli Michael G. Wilson |
| Ysgrifennwr | Bruce Feirstein |
| Addaswr | Bruce Feirstein |
| Serennu | Pierce Brosnan Michelle Yeoh Jonathan Pryce Teri Hatcher |
| Cerddoriaeth | David Arnold |
| Prif thema | Tomorrow Never Dies |
| Cyfansoddwr y thema | Sheryl Crow Mitchell Froom |
| Perfformiwr y thema | Sheryl Crow |
| Sinematograffeg | Robert Elswit |
| Dylunio | |
| Dosbarthydd | MGM Distribution Co. |
| Dyddiad rhyddhau | 19 Rhagfyr 1997 |
| Amser rhedeg | 119 munud |
| Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
| Iaith | Saesneg |
| Cyllideb | $110,000,000 (UDA) |
| Refeniw gros | $333,000,000 |
| Rhagflaenydd | GoldenEye (1995) |
| Olynydd | The World Is Not Enough (1999) |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Tomorrow Never Dies (1997) yw'r deunawfed ffilm yn y gyfres James Bond a'r ail ffilm i serennu Pierce Brosnan fel yr asiant cudd MI6 ffuglennol, James Bond. Cydnabyddir Bruce Feirstein fel sgriptiwr y ffilm er i nifer o ysgrifenwyr eraill gyfrannu i'r broses. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Roger Spottiswoode. Adrodda'r ffilm hanes Bond wrth iddo geisio atal un o fawrion y cyfryngau rhag cynllwynio digwyddiadau byd-eang a dechrau Trydydd Rhyfel Byd.
Cynhyrchwyd y ffilm gan Michael G. Wilson a Barbara Broccoli a dyma oedd y ffilm James Bond gyntaf i gael ei chynhyrchu ar ôl marwolaeth y cynhyrchydd Albert R. Broccoli. Ar ddiwedd y ffilm, telir teyrnged iddo yn y credydau. Perfformiodd y ffilm yn dda yn y sinemau er gwaethaf ymatebion cymysg wrth y beirniaid. Er i'r ffilm wneud fwy o arian na'i ragflaenydd GoldenEye, dyma oedd yr unig ffilm Bond gyda Pierce Brosnan yn serennu ynddo i beidio â mynd yn syth i rif un y siart, am fod Titanic wedi cael ei rhyddhau'r un diwrnod.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]
| ||||||||