Octopussy
Poster y Ffilm | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | John Glen |
| Cynhyrchydd | Albert R. Broccoli |
| Ysgrifennwr | Ian Fleming |
| Addaswr | Richard Maibaum George MacDonald Fraser Michael G. Wilson |
| Serennu | Roger Moore Maud Adams Louis Jourdan Steven Berkoff Desmond Llewelyn Kristina Wayborn Robert Brown |
| Cerddoriaeth | John Barry |
| Prif thema | All Time High |
| Cyfansoddwr y thema | John Barry Tim Rice |
| Perfformiwr y thema | Rita Coolidge |
| Sinematograffeg | Alan Hume |
| Dylunio | |
| Dosbarthydd | MGM/UA Entertainment Co. |
| Dyddiad rhyddhau | 6 Mehefin 1983 |
| Amser rhedeg | 131 munud |
| Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
| Iaith | Saesneg |
| Cyllideb | $35,000,000 (UDA) |
| Refeniw gros | $187,500,000 |
| Rhagflaenydd | For Your Eyes Only (1981) |
| Olynydd | A View to a Kill (1985) |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Trydedd ffilm ar ddeg yng nghyfres James Bond yw Octopussy (1983), a'r chweched ffilm i serennu Roger Moore fel yr asiant cudd ffuglennol, James Bond. Daw teitl y ffilm o stori fer Ian Fleming ym 1966, Octopussy. Fodd bynnag, mae stori'r ffilm yn wreiddiol ac adroddir y stori fer ar ffurf ôl-fflachiad gan y prif ferch Bond, Octopussy. Yn y ffilm, rhaid i Bond ddilyn cadfridog sy'n dwyn gemau a chreiriau o lywodraeth Rwsia. Mae hyn yn ei arwain at dywysog Afghan, Kamal Khan a'i gydymaith, Octopussy. Darganfydda Bond gynllwyn i orfodi Ewrop i ddiarfogi drwy ddefnyddio arf niwclear.
Cynhyrchwyd y ffilm gan Albert R. Broccoli a Michael G. Wilson, a rhyddhawyd Octopussy yn yr un flwyddyn a'r ffilm Bond nas dosbarthwyd gan EON sef Never Say Never Again. Cyfarwyddwyd y ffilm gan John Glen.[1][2]
Rhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:
- 5.2/10[3]
- 41%
- 63/100
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Diada cyhoeddi: http://www.imdb.com/title/tt0086034/releaseinfo. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 14 Ebrill 2017. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. https://www.imdb.com/title/tt0086034/releaseinfo/. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 6 Mai 2023. https://www.imdb.com/title/tt0086034/releaseinfo/. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 6 Mai 2023.
- ↑ Cyfarwyddwr: http://www.imdb.com/title/tt0086034/. dyddiad cyrchiad: 29 Rhagfyr 2015. http://www.filmaffinity.com/es/film582176.html. dyddiad cyrchiad: 29 Rhagfyr 2015. http://stopklatka.pl/film/osmiorniczka. dyddiad cyrchiad: 29 Rhagfyr 2015. http://www.the-numbers.com/movie/Octopussy. dyddiad cyrchiad: 29 Rhagfyr 2015. http://www.allocine.fr/film/fichefilm_gen_cfilm=24.html. dyddiad cyrchiad: 29 Rhagfyr 2015.
- ↑ "Octopussy". Cyrchwyd 5 Hydref 2021.
| ||||||||