Moonraker (ffilm)
Poster y Ffilm | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Lewis Gilbert |
| Cynhyrchydd | Michael G. Wilson William P. Cartlidge Albert R. Broccoli |
| Ysgrifennwr | Ian Fleming |
| Addaswr | Christopher Wood |
| Serennu | Roger Moore Michael Lonsdale Lois Chiles Richard Kiel |
| Cerddoriaeth | John Barry |
| Prif thema | Moonraker |
| Cyfansoddwr y thema | John Barry Hal David |
| Perfformiwr y thema | Shirley Bassey |
| Sinematograffeg | Jean Tournier |
| Golygydd | John Glen |
| Dylunio | |
| Dosbarthydd | United Artists |
| Dyddiad rhyddhau | 26 Mehefin 1979 |
| Amser rhedeg | 126 munud |
| Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
| Iaith | Saesneg |
| Cyllideb | $34,000,000 (UDA) |
| Refeniw gros | $210,300,000 (UDA) |
| Rhagflaenydd | The Spy Who Loved Me (1977) |
| Olynydd | For Your Eyes Only (1981) |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Yr unfed ffilm ar ddeg yn y gyfres o ffilmiau am yr asiant cudd MI6 James Bond yw Moonraker (1979). Dyma'r pedwerydd ffilm i serennu Roger Moore fel James Bond. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Lewis Gilbert ac mae'n serennu Lois Chiles, Michael Lonsdale a Richard Kiel hefyd. Yn y ffilm, danfonir Bond i ymchwilio lladrad annisgwyl pan mae llong ofod yn diflannu. Mae hyn yn arwain Bond at Hugo Drax, biliwnydd sy'n berchennog ar gwmni cynhyrchu llongau gofod. Ynghyd â Holly Goodhead, asiant i'r CIA sydd hefyd yn ymchwilio i mewn i Drax, dilyna Bond gliwiau sy'n mynd ag ef o California i Fenis, yr Eidal, Rio de Janeiro, Brasil a'r Goedwig-law Amazonas, cyn iddo fynd i'r gofod er mwyn atal cynllwyn o hil-laddiad a fyddai'n dinistrio'r ddynol ryw er mwyn ail-greu byd yn llawn o'r hîl berffaith.
| ||||||||