Albert R. Broccoli
Gwedd
| Albert R. Broccoli | |
|---|---|
| Ganwyd | Albert Romolo Broccoli 5 Ebrill 1909 Queens |
| Bu farw | 27 Mehefin 1996 o methiant y galon Beverly Hills |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Galwedigaeth | cynhyrchydd ffilm |
| Priod | Gloria Blondell, Dana Broccoli |
| Plant | Barbara Broccoli, Michael G. Wilson |
| Perthnasau | Pat DiCicco |
| Gwobr/au | CBE, Gwobrau Ffilm yr Academi Frenhinol, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Cynhyrchydd ffilmiau o'r Unol Daleithiau oedd Albert Romolo Broccoli CBE (5 Ebrill 1909 – 27 Mehefin 1996), a enillodd Wobr yr Academi. Cynhyrchodd dros ddeugain ffilm yn ystod ei yrfa, y rhan fwyaf ohonynt yn y Deyrnas Unedig, ac wedi'u ffilmio'n aml iawn yn Stiwdios Pinewood. Fel cyd-sylfaenydd Danjaq, LLC ac EON Productions, mae Broccoli yn fwyaf adnabyddus fel cynhyrchydd y ffilmiau eiconig James Bond. Gwelodd ef a Harry Saltzman y datblygiad o gynhyrchu ffilmiau cyllid cymharol isel, i ffilmiau llawer mwy o faint gyda chyllid llawer mwy sylweddol, ac mae olynwyr Broccoli yn parhau i gynhyrchu ffilmiau Bond newydd.