Barbara Broccoli
Gwedd
| Barbara Broccoli | |
|---|---|
![]() | |
| Ganwyd | 18 Mehefin 1960 Los Angeles |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cynhyrchydd ffilm |
| Tad | Albert R. Broccoli |
| Mam | Dana Broccoli |
| Priod | Frederick M. Zollo |
| Gwobr/au | OBE, CBE, Irving G. Thalberg Memorial Award |
Merch y cynhyrchydd James Bond enwog Albert R. Broccoli yw Barbara Dana Broccoli OBE (ganwyd 18 Mehefin 1960 yn Los Angeles, Califfornia, UDA). Graddiodd yng Nghyfathrebu Ffilm a Theledu o Brifysgol Loyola Marymount cyn iddi fynd i weithio yn adrannau castio a chynhyrchu EON Productions, y cwmni cynhyrchu sy'n gyfrifol am y gyfres ffilmiau James Bond ers 1962. Ar hyn o bryd, mae'n cyd-gynhyrchu ffilmiau Bond gyda'i hanner-brawd Michael G. Wilson. Mae hi'n briod a'r cynhyrchydd Frederick Zollo ac maent yn berchen ar gwmni cynhyrchu annibynnol o'r enw Astoria Productions.
