Neidio i'r cynnwys

José Carlos Mariátegui

Oddi ar Wicipedia
José Carlos Mariátegui
FfugenwJuan Croniqueur Edit this on Wikidata
GanwydJosé del Carmen Eliseo Mariategui LaChira Edit this on Wikidata
14 Mehefin 1894, 14 Mehefin 1895 Edit this on Wikidata
Moquegua Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 1930 Edit this on Wikidata
Lima Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPeriw Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, cymdeithasegydd, cyhoeddwr, damcaniaethwr gwleidyddol, awdur ysgrifau, gwleidydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • La Prensa Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPeruvian Communist Party Edit this on Wikidata
PriodAnna Chiappe Edit this on Wikidata
PlantSandro Mariátegui Chiappe, Javier Mariátegui Edit this on Wikidata
PerthnasauAldo Mariátegui, Julia Swayne y Mariátegui, Francisco Javier Mariátegui y Tellería, Foción Mariátegui Edit this on Wikidata
llofnod

Ymgyrchydd ac athronydd Marcsaidd ac ysgrifwr o Beriw oedd José Carlos Mariátegui (14 Mehefin 189416 Ebrill 1930).

Ganed i deulu tlawd yn nhref Moquegua yn ne Periw.[1] Dysgodd ei hunan am Farcsiaeth a gweithiodd yn newyddiadurwr tra'n ymgyrchu dros y mudiad llafur ac yn erbyn yr Arlywydd Augusto B. Leguía (1908–12, 1919–30). Wedi i Leguía gipio grym am yr eildro a sefydlu unbennaeth, gorfodwyd i José ffoi i'r Eidal ym 1919. Tra yn Ewrop, dylanwadwyd arno yn gryf gan nifer o feddylwyr ac ymgyrchwyr sosialaidd, gan gynnwys Benedetto Croce, Georges Sorel, Henri Barbusse, Antonio Gramsci, a Maxim Gorky.[2]

Dychwelodd i Lima ym 1923, a rhodd ei gefnogaeth i Alianza Popular Revolucionaria Americana (APRA), dan arweiniad Víctor Raúl Haya de la Torres. Cafwyd rhwyg rhwng Mariátegui a Luis Alberto Sánchez, un o aelodau blaenllaw APRA, a phenderfynodd Mariátegui adael y mudiad ym 1928 a sefydlu Plaid Sosialaidd Periw, a ailenwyd yn Blaid Gomiwnyddol Periw ym 1930.[2] Er iddo ddioddef o barlys, a orfodwyd iddo ddefnyddio cadair olwyn, ymgyrchodd Mariátegui yn frwd drwy annerch gweithwyr a gwerinwyr, sefydlu Cydffederasiwn Cyffredinol Gweithwyr Periw ym 1929, a gwasanaethu yn ysgrifennydd cyffredinol ei blaid, yn ogystal â chyhoeddi ysgrifau a llyfrau ar bynciau gwleidyddol a diwylliannol. Datganodd Mariátegui ei wrthwynebiad i benderfyniaeth economaidd, ac o'r herwydd fe gododd wrychyn y Marcswyr Uniongred y Comintern. Cafodd ei geryddu gan Gynhadledd Pleidiau Comiwnyddol America Ladin ym 1929 am fod yn "boblydd" ac am enwi ei blaid yn sosialaidd yn hytrach na chomiwnyddol, ac o ganlyniad cytunodd i ailenwi'r blaid.[1]

Yn ei gyfrol o ysgrifau La escena contemporánea (1925), bu'n lladd ar ffasgaeth ac yn dadlau dros rôl y deallusyn i wrthsefyll llywodraethau gormesol. Sefydlodd Mariátegui y cylchgrawn diwylliannol Amauta (1926–30), a gyhoeddai enghreifftiau o'r avant-garde yn llên Periw. Sefydlwyd indigenismo fel mudiad llenyddol gan Mariátegui yn ei gyfrol Siete ensayos de interpretación de la realidad peruana (1928). Lluniodd Mariátegui indigenismo ar wahân i Indianismo, sef genre neu arddull sy'n portreadu brodorion yr Amerig mewn ffyrdd dieithr a sentimental, cynrychioliad poblogaidd ohonynt mewn llên y 19g a ddylanwadwyd gan Ramantiaeth yr Ewropeaid. Dadleuodd Mariátegui dros bortreadau cywirach o hanes y brodorion sy'n cydnabod y grymoedd cymdeithasol ac economaidd a fuont yn eu gwastrodi.

Bu farw yn Lima yn 35 oed.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 David Walker a Daniel Gray, Historical Dictionary of Marxism (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2007), tt. 207–8.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) José Carlos Mariátegui. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Gorffennaf 2020.