Georges Sorel

Oddi ar Wicipedia
Georges Sorel
Georges Sorel
Ganwyd2 Tachwedd 1847 Edit this on Wikidata
Cherbourg, Cherbourg-Octeville Edit this on Wikidata
Bu farw29 Awst 1922 Edit this on Wikidata
Boulogne-Billancourt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, peiriannydd, cymdeithasegydd, ysgrifennwr, undebwr llafur Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata

Athronydd sosialaidd Ffrengig oedd Georges Eugène Sorel (2 Tachwedd 184730 Awst 1922) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at syndicaliaeth chwyldroadol ac am ei ddamcaniaeth o fythau a thrais yn y broses hanesyddol.

Ganed i deulu dosbarth-canol yn Cherbourg, ym Manche, Normandi, yn ystod cyfnod Brenhiniaeth y Gorffennaf yn Nheyrnas Ffrainc. Cafodd ei hyfforddi mewn peirianneg sifil, a gweithiodd yn y gwasanaeth sifil nes iddo ymddeol ym 1892 i ganolbwyntio ar ei astudiaethau a myfyrdod yn amser-llawn.[1] Trodd at Farcsiaeth ym 1893 ac ysgrifennai draethodau dadansoddol ar bynciau cymdeithasol ac economaidd. Erbyn 1902, roedd yn chwyldroadwr ac yn lladd ar y pleidiau Sosialaidd a Radicalaidd am iddynt ddadlau dros ddemocratiaeth a chyfansoddiadaeth i greu cymdeithas sosialaidd yn hytrach na dulliau chwyldroadol. Cofleidiodd Sorel y mudiad syndicalaidd chwyldroadol a'i bwyslais ar syniadau anarchaidd a brwydr y dosbarthiadau.

Mae ei gyfrol enwocaf, Réflexions sur la violence (1908), yn gasgliad o'i erthyglau ar bwnc trais gwleidyddol a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn syndicalaidd Le Mouvement socialiste ym 1906 sydd yn datblygu ei gysyniadaeth o fythau, gan ddefnyddio esiampl y streic gyffredinol. Yn hytrach nac ystyried sosialaeth wyddonol yn drefn ffeithiol a gwrthrychol o drawsnewid y gymdeithas, mae Sorel yn amgyffred Marcsiaeth fel cyfres o fythau seciwlar sydd yn ddefnyddiol wrth ysgogi'r dosbarth gweithiol i ddilyn arweinwyr y chwyldro. Cafodd ddylanwad pwysig ar ideoleg ffasgaidd Benito Mussolini.

Tua 1909 cafodd Sorel ei ddadrithio gan y mudiad syndicalaidd, a lleisiodd ei gefnogaeth i frenhinwyr yr Action française. Yn sgil Chwyldro Rwsia ym 1917, ymgynghreiriodd Sorel â'r Bolsieficiaid. Bu farw yn Boulogne-sur-Seine yn 74 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Georges Sorel. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Medi 2021.