John Veysey

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Veysey
Moor Hall - 2016-08-28 - Andy Mabbett - 04 CROP.jpg
Ganwyd 1464 Edit this on Wikidata
Sutton Coldfield Edit this on Wikidata
Bu farw 23 Hydref 1554 Edit this on Wikidata
Sutton Coldfield Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaeth offeiriad, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Swydd Esgob Caerwysg Edit this on Wikidata

Roedd John Veysey neu Vesey (1452? – 1554) yn esgob Saesnig a wasanaethodd fel Esgob Caerwysg ac Arglwydd Lywydd Cyngor Cymru a'r Gororau. [1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Veysey yn Sutton Coldfield, Swydd Warwig yn blentyn i William Harman, iwmon a Joan (née Squier) ei wraig. Newidiodd ei gyfenw i Veysey yn ei 30au, wedi derbyn cymynrodd mewn ewyllys gŵr o'r un cyfenw. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen lle enillodd gradd Doethur yn y Gyfraith Sifil. Cafodd ei dderbyn yn gymrawd y coleg ym 1486. [2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1496 ymadawodd Veysey a Choleg Magdalen i gael ei ordeinio yn offeiriad yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Wedi ei ordeinio derbyniodd nawdd gan John Arundell, Esgob Coventry a Chaerlwytgoed. [3] Cafodd ei benodi yn rheithor Edgmond yn Swydd Amwythig ym 1497, cafodd ei ddyrchafu i fod yn ficer cyffredinol ym 1498 ac yn Archddiacon Caer ym 1499. Ym 1502 trosglwyddwyd Arundell i esgobaeth Caerwysg ac aeth Veysey gydag ef. Cafodd ei benodi yn ganghellor yr esgob, canon a phrebend Eglwys Gadeiriol Caerwysg ac yn archddiacon Barnstaple. Bu farw Arundell ym 1504 ond parhaodd Veysey yn ei swydd o ficer cyffredinol i'r Esgob Hugh Oldham, ei olynydd gan yr hwn derbyniodd hefyd y swydd o gantor yr Eglwys Gadeiriol. Penodwyd Veysey hefyd yn rheithor St Mary's on the Hill, Caer ac yn rheithor dan nawdd y brenin ar blwyf Stoke in Teignhead, Dyfnaint. Ym 1506 cyfnewidiodd ei reithoriaeth yng Nghaer er mwyn cael ei benodi yn ganon Eglwys Gadeiriol Caersallog gyda phrebend Alton Borealis.

Ym 1509 etholwyd Veysey yn ddeon Eglwys Gadeiriol Caerwysg gan ei chanoniaid, yn groes i ewyllys y Brenin Harri VIII, oedd am i rywun arall cael y swydd. Er gwaethaf hyn, derbyniodd Veysey nifer o swyddi eglwysig eraill oedd o dan nawdd y goron. Ym 1514 fe'i gwnaed yn ddeon y Capel Brenhinol a phrebend Capel St Steffan, Westminster. Ym 1515 fe'i penodwyd yn ddeon Capel St Siôr yng Nghastell Windsor ac yn gofrestrydd Urdd y Gardys. [2] Fe'i penodwyd hefyd yn ddeon Wolverhampton ac yn rheithor Meifod.

Ym 1519 fe'i penodwyd gan y brenin yn Esgob Caerwysg, ac wedi derbyn sêl bendith y Pab cafodd ei gysegru ar 6 Tachwedd, 1519. [4] Ym 1520 aeth gyda'r brenin i Balinghem, yn Ffrainc lle cynhaliwyd twrnamaint Maes y Lliain Aur fel modd i ddathlu cytundeb heddwch rhwng Brenin Lloegr a Brenin Ffrainc.

Ym 1525 penododd y brenin Veysey yn Arglwydd Lywydd Cyngor Cymru a'r Gororau ac yn oruchwyliwr gosgordd y Dywysoges Mari (Mari I, brenhines Lloegr wedyn). Arhosodd yn y swydd hyd 1534 pan gollodd y swydd am beidio â bod yn ddigon llym wrth reoli Cymru. Olynwyd ef yn y swydd gan Yr Esgob Rowland Lee, a oedd yn llawer mwy llawdrwm ar drigolion y wlad ac a fu'n gyfrifol am sicrhau dienyddiad dros 5,000 o Gymry.

Wedi'r Diwygiad Protestannaidd a thorri cysylltiad Eglwys Loegr ac Eglwys Rhufain, llugoer bu agwedd Veysey tuag at y drefn newydd. Er hynny o herwydd ei ffyddlondeb i'r Brenin sicrhaodd bod y drefn newydd yn cael ei weithredu yn Esgobaeth Caerwysg. Un o'r rheolau newydd oedd sicrhau bod pob aelod o Eglwys Loegr yn dysgu Gweddi'r Arglwydd, Y Credo a'r Deg Orchymyn yn Saesneg. Gan fod Esgobaeth Caerwysg yn cynnwys Cernyw ar y pryd, caniataodd Veysey i bobl Cernyw dewis dysgu'r darnau yn Saesneg neu Gernyweg. [5] Er hynny pan gyflwynwyd y Llyfr Gweddi Gyffredin fel llawlyfr addoliad yr Eglwys ym 1549 ni chaniatawyd ei gyfieithu i'r Gernyweg a bu terfysg yng Nghernyw gyda chefnogaeth gan gefnogwyr yr hen drefn Gatholig yn Nyfnaint, a Gwlad yr Haf. [6] Bu orymdaith i Gaerwysg a rhoddwyd y ddinas dan warchae gan y terfysgwyr. Penderfynodd ymchwil i'r terfysg mae diffyg brwdfrydedd dros yr achos Protestannaidd gan yr Esgob Veysey oedd yn rhannol gyfrifol am y terfysg a chafodd orchymyn gan Edward VI i ymddiswyddo. Dychwelodd i Sutton Coldfield yn ystod ei ymddeoliad gan aros yno hyd 1553 pan godwyd y Catholig Rufeinig Mari I i'r orsedd a chafodd ei ail benodi'n Esgob, er ei fod yn ei 90au erbyn hynny.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi ei ail benodi Esgob dychwelodd Veysey i balas yr Esgob yng Nghaerwysg am ddau fis cyn mynd yn ôl i'w gartref yn Sutton Coldfield. Bu farw yn ei gartref ar 22 neu 23 Hydref 1554 o "boen wrth wneud ei ymgarthion yn ystod y nos". [1] Cafodd ei gladdu tu fewn i eglwys y plwyf Sutton Coldfield.

Gwaddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Veysey, fel y rhan fwyaf o uchel glerigwyr ei ddydd, yn arfer nepotistiaeth. Penododd dau o feibion ei chwiorydd yn gangellorion Eglwys Gadeiriol Caerwysg. Penododd perthynas yn wysiwr cyffredinol yr esgobaeth, un arall yn archddiacon Barnstable a rhoddodd i un arall refeniw eglwysi Wolverhampton.

Bu'n hael i'w dref enedigol, Sutton Coldfield. Sefydlodd ysgol ramadeg rhad yno, sy'n dal i fodoli ac yn parhau i ddwyn ei enw. [7] Talodd am lawer o welliannau i eglwys y plwyf, adeiladodd neuadd y dref a charchar y dref, adeiladodd tai a sefydlodd elusen i gynorthwyo'r tlodion. Bu hefyd yn gyfrifol am sicrhau siartr frenhinol i'r dref a rhoddodd hawl i'r dref i gynnal marchnadoedd a gwella ei heconomi. [8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "Veysey [formerly Harman], John (c. 1464–1554), bishop of Exeter". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/28262. Cyrchwyd 2020-05-09.
  2. 2.0 2.1 "Alumni Oxonienses 1500-1714, Haak-Harman, British History Online". www.british-history.ac.uk. Cyrchwyd 2020-05-09.
  3. "John VEYSEY (Bishop of Exeter)". www.tudorplace.com.ar. Cyrchwyd 2020-05-09.
  4. "Bishop John Veysey (Harman) [Catholic-Hierarchy]". www.catholic-hierarchy.org. Cyrchwyd 2020-05-09.
  5. Evans, D. Simon (1969). "The Story of Cornish". Studies: An Irish Quarterly Review 58 (231): 293–308. ISSN 0039-3495. http://www.jstor.org/stable/30087876.
  6. Mark Stoyle, "The dissidence of despair: rebellion and identity in early modern Cornwall." Journal of British Studies, cyf. 38, 1999, tud. 423–444
  7. "Sutton Coldfield - The Past". www.sutton-coldfield.net. Cyrchwyd 2020-05-09.
  8. Brewer, James Norris (1820). A topographical and historical description of the county of Warwick. tt. 296–299.
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Geoffrey Blyth
Llywydd Cyngor Cymru a'r Gororau
1525 - 1534
Olynydd:
Rowland Lee