John Trevor (llefarydd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Trevor
Sir John Trevor.jpg
Ganwyd 1637 Edit this on Wikidata
Bu farw 20 Mai 1717 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth barnwr, cyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, Aelod Seneddol yn Senedd Iwerddon, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Tori Edit this on Wikidata
Bryncynallt (Brynkinalt) heddiw.

Gwleidydd, barnwr a chyfreithiwr o Gymru oedd Syr John Trevor (c. 1637 – 20 Mai 1717) a ddyrchafwyd yn Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn 1685 hyd at 1687 ac eilwaith rhwng 1689 hyd at 1695. Gwasanaethodd hefyd fel Meistr y Rholiau rhwng 1685 a 1689 ac eilwaith rhwng 1693 a 1717. Daeth ei ail gyfnod fel llefarydd i ben pan ddiswyddwyd ef am dderbyn cil-dwrn o 1,000 gini ar 16 Mawrth 1695. Ef oedd y Llefarydd diwethaf i gael ei ddiswyddo tan 2009 pan ddiswyddwyd y barwn Michael Martin. Yn ôl Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, "bu farw yn Llundain gan adael ar ei ôl enw da oblegid ei wybodaeth o'r gyfraith a'i ddi-dueddrwydd fel barnwr".

Teulu ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd ei dad, a oedd â'r un enw, yn fab i Edward Trevor (c. 1580–1642) a'i fam oedd Margaret (née Jeffreys); John oedd yr ail fab. Roeddent yn byw yn hen gartref y teulu, sef Bryncynallt (Brynkinalt), ym mhlwyf y Waun, Sir Ddinbych.[1]

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Rhuthun ac wedi gadael aeth i weithio at ei ewyrth, Arthur Trevor.[2] Gyda chymorth George Jeffreys, dringodd yn ei yrfa nes y cafodd ei benodi'n Gwnsel i Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban.[2]

Swyddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyrchafwyd ef yn Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn 1685 hyd at 1687 pan orseddwyd William III o Loegr. Ond gwnaed ef yn Llefarydd am yr ail dro rhwng 1689 a 1695. Gwasanaethodd hefyd fel Meistr y Rholiau rhwng 1685 a 1689 ac eto rhwng 1693 a 1717. Ar 6 Gorffennaf 1688 daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor a dewiswyd ef hefyd yn gyd-gwnstabl Castell y Fflint yn 1687 ac yn custos rotulorum Sir y Fflint yn Rhagfyr 1688.[3]

Oherwydd fod ganddo lygaid croes, roedd ambell Aelod Seneddol ar goll, gan na wyddent ar bwy yr edrychai, na chyda pwy y siaradai, ambell dro. Cymerwyd mantais o hyn gan rai i siarad heb wahoddiad.[4]

Sgandal[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 7 Mawrth 1695 cafwyd ef yn euog o dderbyn cil-dwrn o 1,000 gini (£1,050; gwerth £1.6 yn 2009[5]) gan Gyngor Dinas Llundain ar yr amod ei fod yn gwthio deddf drwy'r Tŷ Cyffredin.[2] Daeth y llwgrwobrwyo i'r amlwg a diarddelwyd ef o'r Tŷ ar 16 Mawrth; plediodd iddo fod yn wael ei iechyd. Ni ofynwyd iddo ad-dalu'r cil-dwrn, fodd bynnag a chadwodd ei swydd fel cyfreithiwr nes iddo farw yn 79, neu efallai 80 oed![2][2][6] Derbyniodd y cil-dwrn ychydig wythnosau cyn iddo gael ei ddewis yn arglwydd-ganghellor, felly tynnwyd y cynnig yn ôl (Luttrell,[7].

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Lundy, Darryl (1 May 2008). "Person Page – 3657". thepeerage.com. Cyrchwyd 19 Mai 2009.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Jeaffreson, John Cordy (1867). A Book about Lawyers. G.W. Carleton. pp. 106–109.
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 16 Mawrth 2018.
  4. King, Anthony (19 May 2009). "MPs' expenses: even as a scapegoat, Michael Martin is a failure". Daily Telegraph. Cyrchwyd 19 May 2009.
  5. http://www.measuringworth.com/
  6. "17th Century Speaker's downfall". BBC News. BBC. 19 May 2009. Cyrchwyd 19 Mai 2009.
  7. Brief Relation, ii, 326, 350)