Neidio i'r cynnwys

John Parry (golygydd)

Oddi ar Wicipedia
Am bobl eraill o'r un enw gweler John Parry.
John Parry
Ganwyd23 Mawrth 1812 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ionawr 1874 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethathro, golygydd, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Athro a golygydd oedd John Parry (23 Mawrth 181219 Ionawr 1874), a gofir yn bennaf fel prif olygydd Y Gwyddoniadur Cymreig. Roedd yn fab-yng-nghyfraith i Thomas Gee, cyhoeddwr y gwyddoniadur hwnnw.[1]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganwyd John Parry ger Wrecsam yn 1812. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Bala a Phrifysgol Caeredin. Yn 1843 penodwyd ef yn athro yng Ngholeg y Bala a bu'n gweithio yno am ran helaeth gweddill ei oes. Bu farw yn 1874.[2]

Cofir Parry fel prif olygydd Y Gwyddoniadur Cymreig (neu'r Encyclopaedia Cambrensis), y gwaith gwyddoniadurol mwyaf uchelgeisiol erioed yn yr iaith Gymraeg. Dan olygyddiaeth Parry hyd ei farwolaeth, cafodd ei gyhoeddi mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879 gan Thomas Gee ar ei wasg enwog yn nhref Dinbych (Gwasg Gee).[2] Erys y cyhoeddiad mwyaf yn y Gymraeg hyd heddiw.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein
  2. 2.0 2.1 D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922).

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]