Neidio i'r cynnwys

John Jones (ysgolhaig clasurol)

Oddi ar Wicipedia
John Jones
Ganwyd1766 Edit this on Wikidata
Llanymddyfri Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ionawr 1827 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Crist, Aberhonddu
  • Athrofa Hackney Edit this on Wikidata
Galwedigaethgeiriadurwr, offeiriad Edit this on Wikidata

Roedd John Jones (tua 1767 - 10 Ionawr 1827) yn weinidog Undodaidd ac yn ysgolhaig y clasuron.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jones yn n Wernfelen ger Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, yn fab i ffermwr. Cafodd ei addysgu'n breifat cartref hyd ei fod yn 14 mlwydd oed pan aeth i Goleg Crist, Ysgol Ramadeg yn Aberhonddu.[2] Bu farw ei dad y flwyddyn ganlynol a bu'n rhaid iddo ddychwelyd adref at ei fam. Yn 18 oed ail afaelodd yn ei addysg trwy fynychu'r athrofa anghydffurfiol oedd newydd agor yn Hackney, tref yn swydd Middlesex ychydig tu allan i Lundain ar y pryd, lle fu'n myfyriwr am chwe blynedd.[3]

Ar ôl i Jones gadael y Coleg yn Hackney ym 1792, penodwyd ef yn athro mathemateg a'r clasuron yn athrofa'r Presbyteriaid yn Abertawe lle treuliodd y tair blynedd nesaf. Bu anghytundeb diwinyddol rhwng, William Howell, prifathro'r athrofa a Jones gan fod Jones wedi dechrau meithrin syniadau Undodaidd a Howell yn dechrau meithrin syniadau Arminaidd. Pan benderfynwyd symud yr athrofa i Gaerfyrddin ym 1795, o achos yr anghydfod bu rhwng y ddau, ni chynhigiwyd swydd i Jones na Howell.[4]

Aeth Jones i Plymouth, i wasanaethu fel gweinidog cynulleidfa Bresbyteraidd. Wedi aros yno am tua dwy flynedd symudodd ym 1797 i Halifax, yn swydd Efrog lle agorodd ysgol. Rhwng 1802 a 1804 bu hefyd yn gwasanaethu fel gweinidog ar gapel Undodaidd yno.

Ym 1804 symudodd Jones o Halifax i Lundain, lle bu cadw athrofa ac yn dysgu'r clasuron i ddisgyblion preifat. Er iddo barhau i bregethu i'r Undodiaid ni chymerodd gofal eglwys eto.

Rhwng 1800 a 1827 cyhoeddodd Jones oddeutu ugain o weithiau diwinyddol, gramadegol a geirfâu clasurol, gan gynnwys:[5]

  • A Development of Remarkable Events, yn ddwy gyfrol, (1800.)
  • The Epistle of Paul to the Romans Analysed (1801).
  • A Greek Grammar (1804).
  • Illustrations of the Four Gospels (1808).
  • Ecclesiastical Researches (dwy gyfrol 1812 a 1813)
  • A Latin and English Vocabulary (1812).
  • A Latin Grammar (1813)
  • A New version of the first three chapters of Genesis (1819)
  • A Series of important facts (1820).
  • A Reply to two Deistical Works (1822)
  • A Greek and English Lexicon (1823).
  • An answer to Pseudo-Criticism (1824)
  • Three Letters on 1 John v. 7 (1825).
  • Analogial Latinse sef ei Latin Vocabulary wedi ei ddiwygio, (1825)
  • Tyro's Greek and English Lexicon (1825)
  • Etymologia Graeca sef ei Ramadeg Groeg wedi ei ddiwygio, (1826)
  • Exposure of the Hamiltonian system of teaching Languages (1826)
  • An Explanation of the Greek Article (1826)

Ym 1818 derbyniodd gradd LLD er anrhydedd, gan Brifysgol Aberdeen; a thua dwy flynedd cyn ei farwolaeth, etholwyd ef yn aelod o'r Gymdeithas Lenyddol Frenhinol.

Bu'n briod ddwywaith. Priododd ei wraig gyntaf ychydig wedi symud i Lundain, roedd hi'n ferch i Dr Abraham Rees a bu hi farw ym 1815, ni fu plant o'r briodas. Ym 1817 priododd Anna, merch George Dyer o Sawbridgeworth, Swydd Hertford; bu iddynt dau blentyn.

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu farw yn Great Coram Street, Llundain a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St George, Bloomsbury.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "JONES, JOHN (1766? - 1827), ysgolhaig clasurol a diwinydd Undodaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-07-27.
  2. "Jones, John (c. 1766–1827), Unitarian minister and classical scholar". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/15034. Cyrchwyd 2020-07-27.
  3. Josiah Thomas Jones (1870) Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru: o'r oesoedd boreuaf hyd yn awr Cyf II; tud 48. Jones, John adalwyd 27 Gorffennaf 2020
  4. Yr Ymofynydd Cyf. Newydd rhif. 6 - Mehefin 1901 CARMARTHEN COLLEGE. By Principal Evans, M.A. 14. John Jones, Ll.D. (1792—4) adalwyd 27 Gorffennaf 2020
  5. "Enwogion Sir Gaerfyrddin - John Jones LLD - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1878-04-19. Cyrchwyd 2020-07-27.