John Jones (Idrisyn)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Jones
Idrisyn.jpg
Ffugenw Idrisyn Edit this on Wikidata
Ganwyd 20 Ionawr 1804 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Bu farw 17 Awst 1887 Edit this on Wikidata (83 oed)
Ceinewydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth clerig, ysgrifennwr, argraffydd Edit this on Wikidata

Clerigwr, argraffydd ac awdur o Gymru oedd John Jones (20 Ionawr 1804 - 17 Awst 1887).[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd John Humphrey ym Mhenucha'r dre Dolgellau, Sir Feirionnydd yn blentyn i William Humphrey ac Elizabeth Lewis ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys Dolgellau ar 22 Ionawr 1804. Roedd ei dad yn saer coed oedd yn cael ei gyflogi gan deulu'r Nannau i ofalu am long o'u heiddo. Roedd ei fam yn perthyn i deulu Plas Mawr, sydd bellach yn siop ar y ffordd fawr ond a arferai bod yn blasty sylweddol yn eiddo i deulu'r Barwn Owain. Roedd Elizabeth hefyd yn hawlio bod yn ddisgynnydd i'r Bardd Cwsg.

Roedd Idrisyn yr ieuengaf o naw o blant ond bu farw saith ohonynt cyn ei eni ef. Bu farw ei unig frawd i oroesi yn y llynges wrth geisio rhwystro llong caethion rhag gadael Affrica.[2]

Cafodd Idrisyn ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Dolgellau.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1818 aeth Idrisyn yn brentis i wasg Richard Jones. Roedd y wasg yn cyhoeddi cyfnodolyn y Wesleaid, Yr Eurgrawn, ar y pryd.[4] Tra'n brentis penderfynodd gollwng Humphrey, cyfenw ei dad, a mabwysiadu Jones, cyfenw ei feistr.

Ym 1824 penderfynodd y Wesleaid i gyhoeddi'r Eurgrawn eu hunain, gan sefydlu gwasg yn Llanfair Caereinion ar gyfer y gwaith. Dilynodd Idrisyn y papur i Sir Drefaldwyn. Ym 1827 symudodd gwasg y Wesleaid i Lanidloes a daeth Jones yn fforman y gwaith. Ym 1836 agorodd Idrisyn ei wasg ei hun yn Llanidloes. Ym 1847 ail ddechreuodd cysylltiad Idrisyn a'r Eurgrawn wedi i'r Wesleaid gwerthu eu gwasg i John Mendus Jones a rho'r cyfrifoldeb o gyhoeddi eu papur yn ôl yn nwylo Jones. Rhwng 1851 a 1852 ef bu olygydd y papur hefyd.[5]

Yn ystod ei gyfnod yn Llanidloes bu Idrisyn yn amlwg ym mywyd cyhoeddus y dref. Roedd yn flaenor ac yn bregethwr lleyg i'r Wesleaid ac etholwyd ef yn Faer y dref ym 1853.

Yn ogystal â chyhoeddi gwaith eraill cafodd lawer o waith Idrisyn ei hun eu cyhoeddi. Cyfrannodd lawer o gerddi, traethodau a darnau barn i'r Eurgrawn a chyhoeddiadau Cymreig eraill. Cyhoeddodd hefyd tua 12 o lyfrau. Ei llyfrau mwyaf poblogaidd oedd :

  • Yr Esboniad Beirniadol mewn chwe chyfrol (1845)
  • Dehongliad Beirniadol ar yr Hen Destament a'r Newydd mewn pum cyfrol (1852)
  • Dalenau o Ddyddlyfr ein Bywyd yn yr Ucheldiroedd (1868), cyfieithiad o ddyddiaduron y frenhines Fictoria.

Honnir bod y Dehongliad Beirniadol wedi gwerthu dros 80,000 o gopïau.[6]

Ym 1853 ymadawodd a'i wasg a'r Wesleaid pan gafodd ei ordeinio yn ddiacon yn Eglwys Loegr gan yr Esgob Connop Thirlwall o Dyddewi.[7] Fe aeth i wasanaethu fel curad Llandysul. Cafodd ei ordeinio i urddau llawn yr Offeiriadaeth blwyddyn yn niweddarach. Cafodd ei benodi yn ficer Llandysiliogogo ym 1858 gan aros yno am weddill ei oes

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1829 priododd ag Elizabeth Wilson, Llanidloes [8][9] bu iddynt 5 mab ac un ferch. Un o'i feibion oedd y Parch J Idrisyn Jones, gweinidog gyda'r Annibynwyr.[10]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yng Ngheinewydd yn 83 mlwydd oed [11] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys ei blwyf.[12]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "JONES, JOHN ('Idrisyn'; 1804 - 1887), clerigwr ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-31.
  2. CENINEN GWYL DEWI - Mawrth 1889 Y PARCHEDIG JOHN JONES (IDRISYN)
  3. "Jones [formerly Humffrey], John [pseud. Idrisyn] (1804–1887), biblical commentator". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/15045. Cyrchwyd 2020-03-31.
  4. Yr eurgrawn Wesleyaidd Cyf. CI rhif. 2 - Chwefror 1909 Y parch John Jones (Idrisyn)
  5. Y Geninen Cyf. XIV rhif. 1 - Ionawr 1896 Perthynas y Weslyaid a Llenyddiaeth Gymraeg
  6. "Marwolaeth Y PARCH J JONES Idrisyn - Y Dydd". William Hughes. 1887-08-26. Cyrchwyd 2020-03-31.
  7. Y Cyfaill Eglwysig Rhif. 249 - Medi 1887 Idrisyn
  8. Gwasanaethau Archifau Cymru Priodasau a Gostegion Sir Drefaldwyn, Plwyf Llanidloes 1829
  9. "MARWOLAETH IDRISYN - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1887-08-25. Cyrchwyd 2020-03-31.
  10. "Y PARCH J IDRISYN JONES - Y Tyst". Joseph Williams. 1910-10-05. Cyrchwyd 2020-03-31.
  11. "DEATH OF THE REV J JONES IDRISYN - South Wales Echo". Jones & Son. 1887-08-19. Cyrchwyd 2020-03-31.
  12. "FUNERAL OF IDRISYN - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1887-08-20. Cyrchwyd 2020-03-31.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]