John Hughes (Idanfryn)

Oddi ar Wicipedia
John Hughes
FfugenwIdanfryn Edit this on Wikidata
Ganwyd1832 Edit this on Wikidata
Llanidan Edit this on Wikidata
Bu farw1876 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethathro, bardd Edit this on Wikidata

Roedd John Hughes (Idanfryn) (1832-1876) yn athro, bardd a llenor. Cafodd ei eni ym Mrynsiencyn, Ynys Môn (lle mae tŷ o'r enw Idanfryn), yn fab i William Hughes, amaethwr ar raddfa fach ac Elizabeth ei wraig, Tŷ'n y gongl, Llanidan (1841), Gweitan, Niwbwrch (1851)[1] ac wedyn, Glanrhos, plwyf Llanidan (1875)[2]

Cafodd brentisiaeth efo crŷdd, tra'n byw gyda'i rieni yn Niwbwrch; ac yn hwyrach yn ei fywyd disgrifiodd ei hun fel "tincer" - er dicho iddo ddefnyddio'r gair yn ei ystyr o drempyn neu grwydryn yn hytrach na thrwsiwr sosbenni, gan ein bod yn clywed amdano nesaf fel athro yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant ac wedyn yr athro (1866-7) ar Ysgol Capel Horeb (MC), Rhostryfan,[3] a symudodd wedyn i Amlwch erbyn 1869 lle bu'n athro ar yr Ysgol Frytanaidd yno[4] ac wedyn i Gaernarfon fel pennaeth Ysgol Rad Caernarfon lle bu'n byw hyd ei farwolaeth. Roedd wedi priodi merch y Capten Hugh Owen o Fangor, a bu hithau'n byw yno nes symud at ei merch yng Nghaerdydd tua 1910 a marw yn 1915 yn 73 oed.[5]

Roedd Idanfryn yn fardd a gafodd gryn sylw yn ystod ei oes ac mae ei waith ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[6] Arferai gyfansoddi cerddi moeswersol digon swynol a ymddangosodd weithiau yn Trysorfa y Plant yn yr 1860au, ac ambell i emyn, yn ogystal â chyflwyno ysgrifau i gyfnodolion amrywiol. Fodd bynnag, nid oedd heb gloffi weithiau yn ei ymdrechion. Dyma feirniadaeth ar waith o'i eiddo yng ngholofn Y Tyst Cymreig - ond nid oedd Cymraeg y beirniad yn ddilychwin ychwaith!:

IDANFRYN.—Y mae genych eiriau fel hyn: Tewyllwch—Dinion—Tiwydd—Canio—Digwidd—&c. Ac y mae genych benill mor ddigrif a hwn hefyd:

Mae'r hail yn gweni ar y brun,
Wrth wel'd ei gisgod yn y llin;
Ac mae pob din yn hoffi 'i wres,
Gan ddeid ei fod yn ddyrfawr les.

Da chwi, Idanfryn, mynwch gael Geiriadur a dysgwch wybod y gwahaniaeth sydd rhwng i ac y, a rhwng u, ac y. Y mae genych waith mawr i ddysgu adnabod y llythyrenau, cyn y deuwch i wybod sut i roddi eich meddwl ar bapur yn briodol. Ac un o'r bethau mwyaf anoddefol genym, yw gweled un nas gall ysgrifenu yr enw dyn yn cerdded yn warsyth, ac yn cymeryd amo fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim![7]

Ysgrifennodd golofnau papur newydd weithiau dan y ffugenw "Vox", colofnau a ddangosai ei hiwmor. Yn un o'i golofnau fe ddatgelodd ei hun fel hyn:

A phan wybu yntau fod rhai yn holi pwy ydoedd Vox, yr oedd bron tori ar ei draws yn ei ymguddfan. Ond wrth glywed y trwst ar ôl yr ysgrif ar "Bregethwr mawr y Corff", tybiodd y truan fod cawod fras o glod ar ddisgyn ar rywun na wyddys pwy; a rhag ofn iddo gael colled, dyma fe yn d'od allan yn ben-noeth o'i ogof ddirgel, gan ddywedyd yn wylaidd (?), 'Y Vi ydyw Vox.' 'Och ni!' ebai y cyhoedd, 'ai Idanfryn,—tipyn o school-master anffortunus, a tinker ar un adeg, -ai efe ydyw Vox!! Pw, pw, pw,—lol, trash, ffwlbri,' &c., &,c. Afreidiol yw ychwanegu ddarfod i'r datguddiad hwn ysboilio'r potes ar unwaith.[8]

Bu farw 31 Fai 1876, pan oedd yn byw yn Stryd y Felin, Twtil, Caernarfon ar ôl cystudd hir, gan adael gweddw, pedwar mab a dwy ferch.[9] Yn eu mysg oedd Gwilym Hughes (Ap Idanfryn), newyddiadurwr amlwg ac ysgrifennydd y "Welsh National Memorial Association". Cofir am Ap Idanfryn yn bennaf heddiw oherwydd ei gyfweliad efo'r Dr. William Price.[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyfrifiad, plwyf Llanidan 1841 a Niwbwrch 1851
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 18 Rhagfyr 1875, t.4
  3. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.236
  4. Trysorfa y Plant, Tachwedd 1869, t.28
  5. Cambrian Daily Leader, 4.5.1915, t.4
  6. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsg.NLW MS 8469A - Gwaith John Hughes ('Idanfryn')
  7. Y Tyst Cymreig, 9 Hydref 1868, t.6
  8. Y Dydd, 17 Medi 1869, t.9
  9. Llais y Wlad, 9 Mehefin 1876, t.8; Tarian y Gweithiwr, 9 Mehefin 1876, t.1
  10. Gwefan Rainbow Dragon, [1] Archifwyd 2020-11-29 yn y Peiriant Wayback., cyrchwyd 23.4.2020