John Hinds

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Hinds
John Hinds.jpg
Ganwyd26 Gorffennaf 1862 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw23 Gorffennaf 1928 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 30ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd John Hinds, (26 Gorffennaf, 186223 Gorffennaf, 1928) yn ŵr busnes a gwleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Gorllewin Caerfyrddin a Sir Gaerfyrddin rhwng Rhagfyr 1910 a 1923. [1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Hinds yng Nghwnin ger Caerfyrddin, yn fab hynaf i William Hinds, ffermwr a Mary (née Jones) ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn Academi Alcwyn Evans, Caerfyrddin. [2]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 7 Mawrth 1893 priododd a Lizzie Powell Jones, o Marlborough Road, Brompton, Caint. Roedd hi yn ferch i Mr R Powell, o Gefntrenfa, Llanymddyfri, [3] Bu iddynt tri o blant, bu farw un ferch yn ei phlentyndod a bu farw William ei fab yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn 18 mlwydd oed. [4] Priododd Gwladus â John Cemlyn Jones, Brynbella, Penmaenmawr, brawd Syr Elias Wynne Cemlyn-Jones [5]

Cefndir crefyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Hinds yn aelod o enwad y Bedyddwyr cafodd bedydd oedolyn yng Nghapel Bedyddwyr, Heol-y-prior, Caerfyrddin. Gwasanaethodd fel blaenor a thrysorydd Eglwys y Bedyddwyr, Castle Street, Llundain [6] y capel bu teulu Lloyd George yn ei fynychu yn Llundain. Bu am gyfnod yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl gadael yr ysgol bu Hinds yn gweithio fel gwas ffarm am gyfnod cyn mynd yn brentis i'w ewyrth mamol, Charles Jones, dilledydd yng Nghaerfyrddin. Wedi gorffen ei brentisiaeth symudodd i Lundain ym 1881 i weithio yn y diwydiant dilladu. Ar ôl cael ei gyflogi gan sawl cwmni, sefydlodd ei fusnes dillad ei hun yn Blackheath ym 1887.[7]

Ym 1908 daeth ei fusnes yn gwmni cyfyngedig, gan fasnachu fel Hinds & Co. Tua'r amser yma ymddeolodd Hinds o ymwneud yn uniongyrchol â'r busnes dillad o ddydd i ddydd, a phenodwyd Tom Hinds, ei frawd, yn rheolwr y cwmni. Cadwodd gysylltiad â'r fasnach ac yn ddiweddarach gwasanaethodd fel llywydd y Siambr Fasnach Dilledyddion Prydain Fawr.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi ymneilltuo rhywfaint o'i orchwylion busnes, dechreuodd Hinds chwilio am sedd seneddol ar anogaeth ei gyfaill a chyd eglwyswr David Lloyd George.

Ym mis Ionawr 1910 ceisiodd yn aflwyddiannus am yr enwebiad Rhyddfrydol ar gyfer Bwrdeistref Merthyr Tudful fel olynydd i David Alfred Thomas ond aeth yr enwebiad i Edgar Rees Jones. [8]

Bu ddau etholiad ym 1910 y naill ym mis Ionawr a'r llall ym mis Rhagfyr. Ychydig cyn etholiad Rhagfyr bu'n rhaid i AS Gorllewin Caerfyrddin, John Lloyd Morgan ymddeol o'r senedd ar gael ei benodi'n farnwr. Penderfynodd Hinds gwneud ymgais am yr enwebiad. Bu pum ymgeisydd cryf arall yn yr ornest, gan gynnwys Syr Owen Philipps, a oedd yn sefyll i lawr fel yr aelod dros Fwrdeistrefi Penfro, a Syr Courtenay Mansel. Awgrymwyd i ddechrau y byddai brif frwydr rhwng Hinds a Philipps yn bennaf. Ond arweiniodd Henry Jones-Davies, a oedd yn aelod blaenllaw o Gyngor Sir Caerfyrddin ac yn frawd-yng-nghyfraith i'r diweddar wleidydd Rhyddfrydol, Tom Ellis pob cam o'r pleidleisio rhagbrofol yn y gynhadledd ddethol. Fodd bynnag, yn y bleidlais olaf, enillodd Hinds o 88 pleidlais i 86.[9] Bu Hinds wedyn yn llwyddiannus yn yr etholiad gan ddod i frig y pôl gyda 71.4% o'r bleidlais.[10] Parhaodd fel AS etholaeth Gorllewin Caerfyrddin hyd 1918 pan gafodd y sedd ei ddiddymu. Yn etholiad cyffredinol 1918 safodd Hind yn ddiwrthwynebiad yn etholaeth newydd Caerfyrddin, cadwodd y sedd hyd etholiad cyffredinol 1923 pan safodd i lawr oherwydd ei iechyd.

Yn y senedd pwysleisiodd Hinds faterion traddodiadol Cymreig o ddatgysylltu'r eglwys Anglicanaidd yng Nghymru gan wrthwynebu unrhyw gyfaddawd a materion amaethyddol, a oedd yn adlewyrchu pryderon llawer o'i etholwyr. Roedd hefyd yn gefnogwr i hunan reolaeth i Gymru, ac yn gynghreiriad i E. T. John, ei brif eiriolwr yn Nhŷ'r Cyffredin.

Gwasanaeth cyhoeddus amgen[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Hinds yn amlwg iawn ym mywyd Cymru Llundain

Roedd Hinds yn un o sefydlwyr Cyfrinfa Gymreig Llundain o'r Seiri Rhyddion a gwasanaethodd fel trydydd oruchaf feistr a bu bum waith yn steward i gyfrinfa. Roedd yn aelod o bwyllgor Cymorth Elusennol Cymry Llundain. Bu'n drysorydd ac yn un o islywyddion cangen Llundain o Gymru Fydd. Gweithiodd yn galed i godi arian er mwyn adeiladu Canolfan Cymry Llundain a bu wedyn yn un o'i ymddiriedolwyr. Roedd ar bwyllgor trefnu Eisteddfod Genedlaethol Llundain, 1909.

Roedd hefyd yn weithgar ym mywyd Rhyddfrydol y ddinas. Ym 1904 efe oedd Cadeirydd Cymdeithas Ryddfrydol Blackheath. Ym 1905 cynigiwyd iddo swydd maer Lewisham, ond gwrthododd y cynnig.

Ar ôl ymddeol o'r senedd parhaodd i fod yn weithgar ym mywyd gwleidyddol a crefyddol a diwylliannol Cymreig. Parhaodd i fod yn gadeirydd Ffederasiwn Rhyddfrydol Cenedlaethol Cymru hyd ei farwolaeth. Chwaraeodd ran flaenllaw yng Nghymdeithas Amaethyddol y Siroedd Unedig, gwasanaethodd fel llywydd siambr amaeth Sir Gaerfyrddin, ac roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin.[11] Ym 1925 gwasanaethodd fel maer Caerfyrddin ac yn ddiweddarach fe'i gwnaed yn rhyddfreiniwr y fwrdeistref.

Ym 1927 rhoddodd ddarn o dir i dref Caerfyrddin fel maes hamdden, a elwir bellach yn Barc Hinds. [12]

Ym 1917 fe'i penodwyd yn Arglwydd Raglaw Sir Gaerfyrddin, swydd a daliodd am weddill ei oes.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw o ganlyniad i gymhlethdodau wedi llawdriniaeth yn 7 Mandeville Place, Llundain tridiau cyn ei ben-blwydd yn 66 oed.[13] Wedi gwasanaeth yng Nghapel Penuel, Caerfyrddin, claddwyd ei weddillion ym mynwent gyhoeddus y dref ar 26 Gorffennaf 1928.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Hinds, John (1862–1928), politician and businessman". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/59310. Cyrchwyd 2021-04-05.
  2. "Hinds, John, (26 July 1862–23 July 1928), HM's Lieutenant and Custos Rotulorum, County of Carmarthen, since 1917". WHO'S WHO & WHO WAS WHO. doi:10.1093/ww/9780199540884.013.u197909. Cyrchwyd 2021-04-05.
  3. "CARMARTHEN - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1893-03-17. Cyrchwyd 2021-04-05.
  4. "WELSH MP'S SON - South Wales Weekly Post". William Llewellyn Williams. 1916-02-12. Cyrchwyd 2021-04-05.
  5. "London Welsh Wedding - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1918-06-07. Cyrchwyd 2021-04-05.
  6. Yr Herald Cenadol cyhoeddiad misol at wasanaeth y Bedyddwyr Cyf. XXII rhif. 11 - Tachwedd 1901 Mr John Hinds, Llundain adalwyd 5 Ebrill, 2021
  7. "Welshmen Known in London VI Mr John HindsI - The London Welshman". Harrison & Sons. 1905-12-02. Cyrchwyd 2021-04-05.
  8. "IMerthyr Boroughs - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-12-21. Cyrchwyd 2021-04-05.
  9. Rees, George (1910-12-01). "Manion". Papurau Cymru. Welsh Gazette and West Wales Advertiser. Cyrchwyd 2021-04-05.
  10. Duncan, David (1910-12-17). "NEW WELSH MPs". Papurau Cymru. The Cardiff Time. Cyrchwyd 2021-04-05.
  11. Evans, William Morgan (1918-11-29). "Carmarthenshire Antiquarian Society". Papurau Cymru. The Carmarthen Weekly Reporter. Cyrchwyd 2021-04-05.
  12. "Parciau - Cyngor Tref Caerfyrddin". www.cyngortrefcaerfyrddin.gov.uk. Cyrchwyd 2021-04-05.
  13. The Times 24 Gorffennaf 2028 "Mr. John Hinds." adalwyd trwy Gale Primary Sources (Mynediad Llyfrgelloedd Cyhoeddus LlGC 5 Ebrill 2021
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Lloyd Morgan
Aelod Seneddol

Gorllewin Caerfyrddin
19101918

Olynydd:
diddymu
Rhagflaenydd:
Etholaeth newydd
Aelod Seneddol

Caerfyrddin
19181923

Olynydd:
Ellis Jones Ellis-Griffith