Elias Wynne Cemlyn-Jones
Elias Wynne Cemlyn-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mai 1888 Ynys Môn |
Bu farw | 6 Mehefin 1966 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Gwobr/au | MBE |
Bargyfreithiwr ac awdur oedd Elias Wynne Cemlyn-Jones (16 Mai 1888 – 6 Mehefin 1966).
Ganwyd Elias Wynne ar 16 Mai 1888 yn ardal Gwredog, Amlwch, Ynys Môn, yn fab i John Cemlyn Jones, o Gaerffili a Gaynor Hannah, merch John Elias Jones o Benmaenmawr. Bu farw ei dad pan oedd yn blentyn, ond derbyniodd addysg breifat yn Ysgol Mostyn, Parkgate, Swydd Gaer, yna yn Ysgol Amwythig ac ar ól hynny yn Llundain. Cyfreithiwr oedd ei dad, ac felly, nid annisgwyl iddo ddewis llwybr tebyg a dilyn gyrfa fel bargyfreithiwr. Daeth cyfle iddo yn ei ugeiniau cynnar i deithio a gweld ychydig o'r byd gyda'i fodryb, sef chwaer ei fam. Yn ystod y grand tour hwn rhwng 1910-11, ymwelodd y ddau â Thaleithiau Unedig (America), Canada, Japan, Korea, Tsieina a gwledydd eraill. Wedi dychwelyd i Brydain, rhwng 1912-14 cafodd gyfle i barhau á'i yrfa trwy weithio'n fel ysgrifennydd preifat i Syr Ellis Jones Ellis-Griffith, A.S. yn y Swyddfa Gartref, ond pan ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf, 1914-18, bu'n gwasanaethu fel capten gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Priododd Muriel Gwendoli yn 1914, sef merch Owen Owen, Machynlleth a Lerpwl, perchennog y gadwen fawr o siopau, a ganwyd iddynt ddau fab a dwy ferch.
Wedi'r Rhyfel Mawr
[golygu | golygu cod]Wedi'r gyflafan, gwasanaethodd ar nifer o bwyllgorau a chyrff cyhoeddus, e.e. Cyngor Sir Món o 1919 ymlaen (ac fel cadeirydd a henadur yn 1938-30), Cymdeithas y Cynghorau Sir, Cyngor Canolog Whitley, y Gwasanaeth Iechyd, Cyngor Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cyngor Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor a.y.b. Safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn Ne Croydon yn 1923, ac yn Mrycheiniog a Maesyfed yn 1929, ond yn aflwyddiannus.
Taith mawr Rwsia
[golygu | golygu cod]Erbyn 1931 penderfynodd fynd ar daith arall, o 7000 o filltiroedd trwy Rwsia, gyda Frank Owen i ddal awyrgylch y wlad wedi'r chwyldro ar gyfer nofel yr oedd y ddau'n cydweithio arni. Cyhoeddwyd disgrifiodd o'r daith yn Y Ford Gron, Medi 1931, a chyhoeddwyd y nofel, Red Rainbow, yn 1932. Ynddi, trwy adrodd stori gyffrous, ceisiai'r awduron rybuddio'r cyhoedd ym Mhrydain o nerth bygythiol Rwsia.
Yr Ail Ryfel Byd
[golygu | golygu cod]Pan ddaeth yr Ail Rhyfel Byd, 1939-46, bu'n gwasanaethu y tro hwn gyda'r War Agricultural Executive Committee ar Ynys Món. Cafodd ei urddo'n farchog yn 1941.
Bu farw Elias Wynne ar 6 Mehefin 1966 ac fe'i claddwyd yn Amlwch, Ynys Món.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]Who's who in Wales (A & C Black, 1937)