Canolfan Cymry Llundain
Gwedd
![]() | |
Math | sefydliad ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.525093°N 0.117111°W ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan | Margaret Lloyd George ![]() |
Canolfan ddiwylliannol a chelfyddydol yng nghanol Llundain yw Canolfan Cymry Llundain a sefydlwyd yn 1920 gyda'r enw 'Cymdeithas Cymru Ifanc' (Young Wales Association).
Mae wedi'i leoli yn Gray's Inn Road, Bwrdeistref Llundain Camden. Cynhelir ystod eang o ddigwyddiadau sy'n denu pobl o bob tras a chefndir. Perchennog y ganolfan yw'r London Welsh Trust. Un o'i sefydlwyr oedd Margaret Lloyd George.
Mae'r ganolfan yn gartref i nifer o gorau ac yn cynnig gwersi Cymraeg i ddysgwyr ar bob lefel. Mae'n ganolbwynt pwysig i Gymry Llundain ac yn fodd o hybu Cymru a'i diwylliant i gynulleidfaoedd ehangach, gan gynnwys y gymuned leol.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Cymry Llundain
- Clwb Ifor Bach, Caerdydd
- Saith Seren, Wrecsam