Saith Seren, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Saith Seren, Wrecsam
Math
canolfan gymunedol
Math o fusnes
menter gydweithredol
Gwefanhttp://www.saithseren.org.uk/, http://saithseren.com/ Edit this on Wikidata

Canolfan Gymraeg a Chymreig amlbwrpas a menter gydweithredol yn Wrecsam ydy Saith Seren.[1][2] Mae'r ganolfan wedi ei lleoli yn hen adeilad tafarn The Seven Stars yn Stryd Caer yn y dref.[3]

Saith Seren, Wrecsam - tafarn a chanolfan Gymraeg

Hanes[golygu | golygu cod]

Dechreuwyd ymgyrch yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 i godi arian ar gyfer Canolfan Gymraeg i'r dref.[4] Gwerthwyd cyfrandaliadau er mwyn sichrau prydles 21 mlynedd ar yr adeilad ac am waith adnewyddu, ac fe gyrhaeddwyd y nod erbyn diwedd mis Rhagfyr y flwyddyn honno.

Agorwyd Canolfan Gymraeg y Saith Seren ar 25 Ionawr 2012 gyda chyfleusterau bar a chegin ar gyfer paratoi bwyd.

Cyfleusterau[golygu | golygu cod]

Cynhelir sesiynau sgwrsio i ddysgwyr, cyfarfodydd ac adloniant yn Gymraeg ac yn Saesneg yn rheolaidd a bydd dosbarthiadau Cymraeg cyn gynted ag y bydd ystafelloedd dosbarth yn barod.

Hanes yr adeilad[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd tafarn The Seven Stars yn 1898 yn ôl cynlluniau Thomas Price, Lerpwl. Mae'n ddull masnachol hynod sy'n defnyddio elfennau o bensaernïaeth Celf a Chrefft.[5] Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Canolfan Gymreig: Ymateb 'anhygoel'. BBC Cymru (21 Medi 2011).
  2.  Agor Saith Seren. Y Cymro (28 Ionawr 2012).
  3.  Wrexham Pub To Become Welsh Cultural Centre. www.wrexham.com (24 Medi 2011).(Saesneg)
  4.  Siôn Tecwyn (27 Ionawr 2012). Agor canolfan Gymraeg newydd Wrecsam. BBC Cymru.
  5. Tafarn The Seven Stars, Stryt yr Lampint, Wrecsam Archifwyd 2012-09-06 yn y Peiriant Wayback. o wefan Cyngor Sir Wrecsam

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]